Adeilad Prifysgol Cymru ar hyn o bryd
Fe fydd Prifysgol Cymru’n troi’n brifysgol genedlaethol lawn unwaith eto trwy uno gyda thri o sefydliadau addysg uwch eraill i greu un corff.

Mae’n bosib wedyn y bydd prifysgolion eraill sy’n dod o dan adain cynghrair Prifysgol Cymru ar hyn o bryd, yn dod yn rhan o’r corff.

Fe fydd colegau addysg bellach hefyd yn cael dod yn aelodau cyswllt o’r Brifysgol newydd mewn trefniant  a fydd, yn ôl y cyrff, yn trawsnewid y ffordd y mae addysg prifysgol a choleg yn cael ei chyflwyno yng Nghymru.

Y manylion

Y cam cynta’ fydd uno Prifysgol Cymru gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a dod â Phrifysgol Fetropolitan Abertawe ac Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd (UWIC) i mewn i’r grŵp.

Un cyngor fydd gan y sefydliad newydd a hwnnw’n cael ei arwain gan ddau Is-Ganghellor, un yn Llywydd a’r llall yn Rheithor gyda chyfrifoldeb am gyllid.

Bydd pob un o’r sefydliadau unigol wedyn yn cael eu harwain gan Brofost a fydd yn cynnal cymeriad y sefydliadau hynny.

Y cam nesa’ fydd trafod strwythur a chyfansoddiad y brifysgol newydd a phenderfynu pryd y daw i fod yn swyddogol.

Cytuno

Mae cyrff llywodraethol Prifysgol Cymru a’r Drindod Dewi Sant wedi pleidleisio’n unfrydol o blaid yr uno, sy’n ymateb i alwad am ragor o gydweithio gan y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews.

“Mae’r Corff Llywodraethol heddiw wedi cytuno i greu Prifysgol Cymru genedlaethol a fydd yn ymateb i heriau’r 21fed ganrif,” meddai Geoffrey Thomas, Cadeirydd Cyngor Y Drindod Dewi Sant.

Prifathro’r Brifysgol, Medwin Hughes, oedd wedi gwneud y cynnig i uno dan yr enw System Cymru. Cynghrair o sefydliadau sydd o dan adain Prifysgol Cymru ar hyn o bryd, ond fe fydd yr uno’n creu un corff newydd.

“Bydd Brifysgol Cymru, gyda chyfansoddiad newydd ac un genhadaeth er mwyn gwasanaethu Cymru, yn asiant pwerus ar gyfer trawsnewid a bydd yn cael ei ystyried yn bwerdy ar gyfer hwyluso amcanion Cynulliad Cenedlaethol Cymru,” meddai Medwin Hughes mewn datganiad.