Simon Richardson gafodd ei anafu'n ddifrifol
Mae ffermwr wedi ei gael yn euog o yrru’n beryglus ar ôl iddo daro seiclwr Paralympaidd a’i anafu’n ddifrifol.

Mae Edward Adams, 60, o’r Bontfaen yn wynebu cyfnod yn y carchar pan fydd yn cael ei ddedfrydu ar 30 Awst.

Roedd Simon Richardson, 44, o Borthcawl, yn seiclo ar hyd yr A48 ger Pen-y-bont ar Ogwr pan gafodd ei daro gan fan ym mis Awst y llynedd.

Clywodd Llys y Goron Casnewydd na ddylai Edward Adams fod yn gyrru gan ei fod wedi yfed dwywaith yn fwy na’r lefel gyfreithiol o alcohol ac nid oedd ei olwg yn ddigon da.

Roedd Adams wedi gwadu gyrru’n ddiofal yn ei fan ond wedi pledio’n euog i gyhuddiad o yfed a gyrru ac o beidio ag aros ar ôl damwain.

Cuddio ei fan

Clywodd y llys fod Adams wedi ceisio cuddio ei fan Peugeot ar ôl y digwyddiad ond cafodd ei ddarganfod gan hofrennydd yr heddlu.

Roedd Simon Richardson wedi bod yn ymarfer ar gyfer Gemau Paralympaidd Llundain ar lonydd cefn gwlad ger ei gartref pan gafodd ei daro.

Roedd wedi ennill dwy fedal aur ac un arian yn y Gemau Paralympaidd yn Beijing yn 2008.

Honnodd Adams bod goleuni’r haul wedi ei ddallu ac nad oedd yn ystyried ei yrru yn beryglus.

Ond fe gymerodd y rheithgor ychydig mwy nag awr i’w gael yn euog.

Dywedodd y barnwr Daniel Williams ei fod yn debygol o gael dedfryd o garchar.