Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Jamie Bevan: 35 diwrnod o garchar

Awst 13, 2012 11:50


Jamie Bevan
Cafodd aelod o Gymdeithas yr Iaith ei ddedfrydu i 35 diwrnod yn y carchar gan ynadon Merthyr Tudful y bore yma am wrthod talu dirwy.

Roedd Jamie Bevan sy’n dod o Ferthyr ac sy’n dad i bedwar o blant, wedi gwrthod talu dirwy ar ôl torri i mewn i swyddfa etholaeth yr Aelod Seneddol Ceidwadol Jonathan Evans yng Nghaerdydd a phaentio sloganau fel protest yn erbyn newidiadau i’r modd mae S4C yn cael ei chyllido.

Dywedodd ei fod am ddefnyddio’r achos i dynnu sylw at ohebiaeth uniaith Saesneg a dderbyniodd gan y llysoedd.

Dylai siaradwr Cymraeg gael y cyfle i gael gwrandawiad cwbl Gymraeg mewn llys meddai, gan fod siaradwyr Cymraeg “dan anfantais enfawr” wrth gyfathrebu gydag ynadon neu farnwr trwy gyfrwng cyfieithydd.

Cafodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Bethan Williams ei hanfon o’r llys am dorri ar draws y gwrandawiad.

Daw’r achos ddiwrnod ar ôl i un o’r ymgyrchwyr iaith a ysbrydolodd sefydlu Cymdeithas yr Iaith farw ddoe yn 91 oed. Talodd Jamie Bevan deyrnged i Eileen Beasley yn ystod yr achos.

Mae’n debygol y bydd Jamie Bevan yn treulio’i gyfnod dan glo yng ngharchar Caerdydd.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Nodi Camddefnydd
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y ddolen ’Nodi camddefnydd’ sy’n ymddangos wrth ymyl pob sylwad. Os bydd dau berson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.


Hedd Gwynfor , Awst 13, 2012 12:17 pm

Diolch yn fawr am dy aberth dros yr iaith Jamie.

§| Nodi camddefnydd

Colin Nosworthy , Awst 13, 2012 2:09 pm

Ie, diolch i ti Jamie.

§| Nodi camddefnydd

Danial , Awst 13, 2012 2:11 pm

Ia Jamie, Diolch am sod all

§| Nodi camddefnydd

Dafydd , Awst 13, 2012 2:21 pm

Parch…..

§| Nodi camddefnydd

Ifor Williams , Awst 13, 2012 2:25 pm

Dim ond 35 diwirnod gyda good behaviour bydd e mas toc – pity na fydde fe wedi mynd am achos o flaen rheithgor – Merthyr sydd a conviction rate isa’r Ynysoedd hyn ! Tre o crooks !

§| Nodi camddefnydd

irfon , Awst 13, 2012 2:30 pm

Mae’r rheola yn hollol syml
Torri mewn i swyddfa= carchar
Gwrthod talu dirwy= carchar.
Mae o’n digwydd i fandals bob dydd, bob blwyddyn mewn llysoedd ar draws Prydain gyfan. A’r tristwch ydi fod nifer fawr o’r pena bach yma yn meddwl fod o, neu hi, yn arwr.

§| Nodi camddefnydd

Ifor Williams , Awst 13, 2012 2:34 pm

Does dim angen poeni gormod amdano fe bydd merched Welsh Nash Aberystwyth & Bangor yn taflu eu hunain ato fe – edrychwch ar Ffred Francis – he did rather well – roedd ac ma ei wraig e’n gwneud i Twiggy edrych yn salw and he’s no adonis !

§

Dafydd , Awst 13, 2012 2:40 pm

Yn wir, nid yw cweit yr un peth a gwnaeth John Jenkins neu nifer o aelodau’r IRA ac fel ti’n dweud Ifor……mae yna ‘dividends’ ond wedi dweud hynny…..rhaid ymestyn iddo barch am ei safiad……

§| Nodi camddefnydd

Heledd , Awst 13, 2012 3:05 pm

parch mawr i ti Jamie am dy safiad dewr, meddwl amdanat ti a dy deulu yn ystod y cyfnod yma. Diolch yn fawr i ti am wneud hyn drostom ni

§| Nodi camddefnydd

Ceri , Awst 13, 2012 3:11 pm

Irfon – os chi’n mynnu sarhau aelodau’r Gymdeithas, da chi dysgwch sillafu eich sarhad yn gywir; dwy ‘n’ sydd i gael yn ‘penau bach’ a chyda llaw un ‘t’ sydd i gael yn ‘prat’ a ‘twat’ ichi gael eu sillafu nhw’n gywir ar eich ‘curriculum vitae’.

§

Kelly Williams , Awst 13, 2012 3:41 pm

Bydd Jamie Bevan byth yn arwr i mi, nac unrhyw aelod arall o Cymdeithas, ond dwi’n deall pam mae o wedi neud be wnaeth o. Be sy’n bwysig cofio yn fan hyn ydi bod y system yn caniatau i bethau fel hyn ddigwydd. S4C, yr unig sianel Gymraeg yn y byd, a hwnnw dan fygythiad dan y pwerau. Be ma bobl yn fod i neud? Eistedd yn ol a derbyn pethau? Mae angen pobl fel Jamie Bevan yn y byd i gicio’r tresi. Fydd o allan mewn llai na mis beth bynnag.

§| Nodi camddefnydd

Jon Tomos , Awst 13, 2012 3:44 pm

Bydd Jamie Bevan wastad yn arwr i mi.

§| Nodi camddefnydd

Guto , Awst 13, 2012 4:13 pm

Os ydi Irfon yn dwat, beth felly ydi Danial?

§

irfon , Awst 13, 2012 4:37 pm

Braf dadlau gyda bobol mor ddeallus. Mae gen bawb hawl i fod yn ‘nash’ a sgen i ddim problam hefo safbwyntiau gwleidyddol sy’n wahanol i rai fy hun. Mae gan bawb hawl i ddewis eu harwyr. Tydi hwn ddim yn arwr i mi. A Ceri, os dwi angen cymorth gyda fy CV mi fyddai’n siwr o fod mewn cysylltiad.

§| Nodi camddefnydd

Ceri , Awst 13, 2012 4:43 pm

Re Danial:

Sarhad eithaf gwantan Danial os caf i ddweud.

Efallai bydd y llyfr hwn o ddiddordeb ichwi:

Crefft y Sarhad.
(Shwt mae galw cont yn gont)
Cyhoeddiadau Barddas 1853

ISBN 376-0-0076123-5.

§

irfon , Awst 13, 2012 4:52 pm

Ia, wel at Danial o’n i’n cyfeirio hefyd yn bennaf.

§| Nodi camddefnydd

Adam Jones , Awst 13, 2012 4:58 pm

Irfon, Nid bod yn ‘nash’ yw gwneud safiad dros hawliau dynol unigolion i ddefnyddio’u hiaith.

Hawdd i bob un ohonoch anghofio’r safiad wnaeth aelodau o’r Gymdeithas dros y blynyddoedd, ond tro nesa i chi diwnio mewn i Radio Cymru neu S4C, neu ddarllen arwyddion Cymraeg, neu lenwi ffurflen Cymraeg i mewn, neu ateb y ffôn i gorff cyhoeddus yn y Gymraeg, neu anfon eich plant i ysgol Gymraeg, neu ddarllen Golwg360, yr union wefan yma, neu defnyddio’r twll yn y wal yn Gymraeg, da chi i gofio mai safiad unigolion o’r Gymdeithas a’r ymgyrchoedd a’r protestiadau wnaeth sicrhau hyn.

Pwyntio bys at bawb y bo, ond cyn farnu beth am edrych ar y darlun llawn? Os mai ‘vandal’ yw Jamie Bevan, wel mae’n vandal uffernol o dda smo chi’n cretu? A beth am y
‘fandaliaid go iawn’ sydd yn dinistrio’n diwylliant, treftadaeth a’n hetifeddiaeth ni? Fandaliaid y sefydliad Brydeinig sydd fesul darn yn tynnu conglfeini’n hunaniaeth yn ddarnau mân?

Ie da chi Irfon, ewch i farnu.

Bevan ein Vandal, diolchwn!

§| Nodi camddefnydd

irfon , Awst 13, 2012 5:09 pm

Tydi ‘mynnu ffurflen yn y Gymraeg’ ddim byd tebyg i be wnaeth gwir arwyr fel Rosa Parks a Mandela.

§| Nodi camddefnydd

Adam Jones , Awst 13, 2012 5:21 pm

Ar ôl colli Eileen Beasley wnaeth union yr un peth, wnaeth golli’i heiddo, wnaeth fynd i’r llysoedd dro ar ôl tro, rydych yn anghyfrifol iawn ei chymharu â mawrion eraill. Nid cymharu arwyr yw hwn ond cydnabod safiad unigolion sydd wedi gwneud y safiad hwnnw dros les eraill ac nid at ei dibenion ei hunain. Mae fandaliaid yn gwneud rhywbeth i fod yn hunanol, ai hunanol oedd Jamie Bevan? Yn codi asgwrn cefn i weud na i’r gyfundrefn Brydeinig a mynnu cael ein clywed?

§| Nodi camddefnydd

Barry Taylor , Awst 13, 2012 5:36 pm

Mae’n hollol amlwg nad yw dulliau cyfansoddiadol, parchus yn gweithio. Fel arall, byddai’r iaith yn ddiogel erbyn hyn. Ond er gwaethaf eu hymddiheuriadau dro ar ôl tro, mae’r gwasanaeth llysoedd wedi parhau i ddelio gyda jamie bevan yn Saesneg.

Weithiau mae angen pobl i weithredu tu allan i’r gyfraith er mwyn cael unrhyw sylw ac unrhyw effaith o gwbl.

Heb bobl fel Jamie Bevan, byddai pob arwydd a phob ffurflen yn uniaith Saesneg, ni fyddai sianel deledu Cymraeg o gwbl, a byddai’r iaith yn marw.

Diolch yn fawr, Jamie, am dy safiad dewr dros hawliau dynol i siaradwyr Cymraeg. Mae rhai ohonom yn gwerthfawrogi dy barodrwydd i fynd i’r carchar drosom ni.

§| Nodi camddefnydd

Bedwyr , Awst 13, 2012 7:17 pm

@Adam – paid ac ymateb i pen bach fel “Irfon” troll bach ydy o/hi, y fath sy anfon tweets bach o dan enw ffug at pobl.

Jamie Bevan ac Eileen Beasley – Diolch!

§| Nodi camddefnydd

irfon , Awst 13, 2012 7:18 pm

Byd o wahaniaeth rhwng methu cael bil trydan yn y Gymraeg a methu cael unrhyw fath o addysg oherwydd lliw eich croen. Perspectif bobol. A stopiwch yr hunan-ramantu.

§| Nodi camddefnydd

Ceri , Awst 13, 2012 7:22 pm

Golwg – beth yw’r pwynt dileu sylw rhywun ac wedyn gadael yr ateb gan ddyn arall. Man a man ichwi ddileu popeth; dyw’r dilyniant sylwadau ddim yn gwneud sens!

§| Nodi camddefnydd

Dilwyn , Awst 13, 2012 7:26 pm

Mae’n rhaid i mi fynegi fy siom am rhai sylwadau sydd yn dangos amharch at Jamie Bevan ac at unigolion eraill fel Ffred Ffransis ac Eileen Beasley. Mi ges i’r fraint a’r anrhydedd o fod ym Merthyr heddiw i gefnogi safiad Jamie a dwi’n gwybod nad ar chwarae bach mae unrhyw un yn dewis gweithredu mewn modd fydd yn arwain at garchar. Mae’r sylwadau personol a’r ensyniadau’n dangos diffyg dealltwriaeth greiddiol o gysyniadau digon elfennol megis parch, urddas a chwarae teg. Wrth i ni fynd am allan o adeiladau’r llys holodd menyw beth oedd yn mynd ymlaen ac wedi iddi glywed yr hyn oedd wedi digwydd dyma hi’n datgan nad yw’r gymdeithas yr ydym yn byw ynddi’n deg gan ein siarsio i fwrw mlaen gyda’n brwydr. Tra bod anghyfiawnder a annhegwch yn bod a tra bod yr awdurdodau’n milwrio yn erbyn cydraddoldeb mae angen arwyr fel Jamie ac aelodau o’i deulu.

§| Nodi camddefnydd

Bedwyr , Awst 13, 2012 7:28 pm

Irfon – plis dweda i ni gyd nawr, pryd es ti i garchar am dy egwyddorion?

Hawdd iawn i llwfrgi neu cachgi fod yn ddewr tu ol i sgrin cyfrifadur, tydi?

§| Nodi camddefnydd

irfon , Awst 13, 2012 7:47 pm

Faswn i yn berffaith hapus mynd i garchar dros hawl person i gael addysg ag i wella ei hun ac i brotestio am system fel apartheid neu’r sefyllfa yn America yn y pumpdegau. Ond ddim dros yr hawl i gael peiriant twll yn y wal yn y Gymraeg.

§| Nodi camddefnydd

Dafydd , Awst 13, 2012 7:49 pm

…..ac mi wnes i ymateb mewn modd ysgafn i beth wnaeth rhwyun arall ddweud. Nid oes modd dileu neges. Mi fyddwn wedi petawn yn gallu. Mae parch mawr gyda fi iddo a’i debyg.

§| Nodi camddefnydd

Bedwyr , Awst 13, 2012 8:04 pm

Felly mae’n amlwg Irfon does diawl o ots gennyt am ein iaith a’n diwylliant. Da iawn ti.

§| Nodi camddefnydd

irfon , Awst 13, 2012 8:10 pm

Os ydi diwylliant yn dibynnu ar beiriant twll yn y wal mae wedi canu arni yn barod tybiwn i.

§| Nodi camddefnydd

Adam Jones , Awst 13, 2012 8:19 pm

Sut wyt ti felly Irfon yn gallu gwahaniaethu rhwng un hawl dynol a’r llall yr hawl i addysg, yr hawl i iaith? Onid yw iaith yn ‘addysg’ onid yw’r hawl i’r iaith honno’n addysg yn ei hun, ac heb yr hawl yn cyfyngu ar ‘addysg’ unigolyn?

Ti’n sôn am berspectif, rwyt yn colli pob dilysrwydd gwneud y fath sylw tra’n ceisio gwahaniaethu hawl i hawl, fel un sydd â teulu yn dod o dde Affrica ac yn byw yno nawr a frwydrodd yn erbyn apartheid allai weutho ti, yr un yw’r nod yn yr ymgyrchoedd hyn i gyd – cyfiawnder, gwneud yn iawn am yr hyn sydd anghyfiawn.

Os nad wyt ti’n gallu gweld hynny irfon, mae wedi canu arna ti dy hun.

§| Nodi camddefnydd

Adam Jones , Awst 13, 2012 8:24 pm

teulu yn byw yno nawr * dwi ddim yn byw yno!

§| Nodi camddefnydd

Bedwyr , Awst 13, 2012 8:25 pm

Os yw’r Gymraeg i fyw rhaid i fod yn rhan o’n bywyd pob dydd ni, nid ond yr ysgol, capel, ayb yn unig ond ar y stryd fawr; wir sori Irfon os wyt ti ddim yn deallt hynny. Ond fel ddwedis i troll bach y we wyt ti sy hoffi profocio gyda sylwadau anwybodus a negyddol. Pam? Dwi’m yn gwybod, efallai ti’n teimlo’n unig, neu flin ar byd a’r betws, wn i ddim. Ta waeth, eto diolch i ti Jamie am fynd i garchar dros ein iaith, ac i teulu Beasley’s am newid y drefn yn y 50′au. Diolch.

§| Nodi camddefnydd

irfon , Awst 13, 2012 8:29 pm

Faswn i’n dadlau fod yr hawl i addysg- mewn unrhyw iaith- yn bwysicach na’r hawl i addysg mewn iaith benodol. Education as a principle, a right and as an ideal is more important than the medium in which it’s delivered.

§| Nodi camddefnydd

Eifion Williams , Awst 13, 2012 8:39 pm

Cytuno ac Irfon, mae addysg yn bwysicach na hawl unrhyw iaith, a fel rydym yn gwybod addysg cyfrwng Cymraeg sy roi’r addysg gorau i blant yn ol adran addysg y Cynullaid, a fel dwedwyd Irfon addysg sy’n bwysig, felly amser gwneud pob un ysgol yng Nghymru yn ysgol cyfrwng Cymraeg :)

§| Nodi camddefnydd

Bedwyr , Awst 14, 2012 1:06 am

@Irfon, rwy’n wrthi mynd rownd tai pob blwyddyn i godi arian gyda Cymorth Cristnogol er mwyn y trydydd byd. Ambell waith mae rhai yn gwrthod gyda pob fath o esgusodion dan haul. Mae gweld y fath tlodi yn torri ngalon i a dwi wneud be allai dros cyfiawnder y trydydd byd. A mae cyfiawnder i iaith lleiafrifol, ein iaith ni, i fi yn bwysig iawn hefyd.

§| Nodi camddefnydd

Eifion Williams , Awst 14, 2012 8:58 am

O ddiddordeb Bedwyr, be mae nhw dweud wrth gwrthod rhoi arian i’r elusen arbenning honno?

§| Nodi camddefnydd

Bedwyr , Awst 14, 2012 9:57 am

Dwedodd un wrthaf “I’m not a Christian and I don’t believe in charity” cyn cau drws.

§| Nodi camddefnydd

Ifor Williams , Awst 14, 2012 10:03 am

Get lost Irfon roedd safiad Beasley gymaint pob tamed a Parks etc

§| Nodi camddefnydd

Ifor Williams , Awst 14, 2012 11:58 am

Ond ma’r llencyn yn y jail a diw Cymru’n malio dim etc etc etc

D.Iwan circa 1970

§| Nodi camddefnydd

Guto , Awst 14, 2012 1:56 pm

Mae’n drist iawn gweld rhai o’r sylwadau hyn, yn enwedig rhai sy’n dod gan siaradwr Cymraeg megis Irfon, yn bychanu cyfraniad Jamie Bevan yn ogystal a’r gwaith a’r aberth a wnaethpwyd ers degawdau gan ymgyrchwyr dros yr iaith. Heb eu hymdrech hwy ni fyddai’n bosib defnyddio’r iaith yn ein bywydau bob dydd ac fe fyddai’r iaith ar ei wely angau erbyn hyn. Mae’r iaith dal yn glaf go fregus, ond o leiaf ei fod wedi goroesi diolch i arwraeth pobl megis Jamie.

§| Nodi camddefnydd

Ifor Williams , Awst 14, 2012 4:44 pm

Newydd darllen y stori yma a’r wefan y Western Mail ac ma nhw’n datgelu lot fwy na chi am yr hyn ddigwyddodd a’r gefnogaeth ma fe wedi derbyn.

§| Nodi camddefnydd

Benjiman , Awst 14, 2012 6:23 pm

Sgor

Irfon – 0
Jamie Bevan – 3943

§| Nodi camddefnydd

irfon , Awst 14, 2012 10:16 pm

Benjiman bach, mae gan bawb ffrindia. ‘Dwi heb gyfri yn ddiweddar. Croeso i bawb rhamanteiddio a smalio fod yn Che Guevara am 35 diwrnod.

§| Nodi camddefnydd

Danial , Awst 17, 2012 1:04 am

ma rhywun di dileu fy nghomment, myn ddiawl bobol bach,

dachi’n ffreuo fel criw o golomenod arol briwsion bara.

Mwynhewch eich “crumbs” wrth dadlau ar y we, tan mae ein arwyr ddelfrydol yn pydru yn y carchar, yn crafu llinell i fewn i’r wal bob bora i helpu gyda’i drueni.

fyddai tu allan i’r carchar pryd mae’r hen Bev’s cael ei rhyddhau, efo confetti wedi’i wneud o dudalennau Beibl William Morgan ac yn canu calon lan.

§| Nodi camddefnydd

Martin Wilias , Awst 17, 2012 4:03 pm

Pob lwb i J Bevan. Neb hyd yma wedi creu dolen?
http://www.youtube.com/watch?v=bfxcPHonLQE&feature=player_embedded

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Nodi Camddefnydd
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y ddolen ’Nodi camddefnydd’ sy’n ymddangos wrth ymyl pob sylwad. Os bydd dau berson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.