Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



AS: Angen edrych ar y Gymraeg yn adrannau Llywodraeth Prydain

Tachwedd 20, 2012 18:42, Diweddarwyd am 18:44


Mewn trafodaeth ar y Gymraeg yn San Steffan brynhawn ma dywedodd Aelod Seneddol Aberconwy fod angen edrych ar ddarpariaeth Gymraeg adrannau llywodraeth Prydain.

Dadleuodd Guto Bebb mai gwendid Mesur y Gymraeg 2011 oedd bod Comisiynydd y Gymraeg, a gafodd ei sefydlu gan y Mesur, yn goruchwylio gwaith y cyrff a’r adrannau oedd wedi cael eu datganoli i Gymru yn unig.

Cynigiodd Guto Bebb y gallai’r Pwyllgor Dethol Cymreig yn San Steffan graffu ar ddarpariaeth y Gymraeg yn yr adrannau sydd heb eu datganoli, ar y cyd gyda Chomisiynydd y Gymraeg.

Yn ystod y drafodaeth dywedodd Aelod Seneddol Maldwyn, Glyn Davies, fod y Swyddfa Gartref wedi cael “dihangfa agos” dros fater papurau pleidleisio etholiadau comisiynwyr yr heddlu, a fu bron â chael eu hargraffu yn Saesneg yn unig yng Nghymru.

Ymateb y Gweinidog yn Swyddfa Cymru

Dywedodd Dirprwy Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, nad ei le ef oedd cynnig i Gadeirydd y Pwyllgor Dethol Cymreig yr hyn y dylen nhw fod yn craffu arno, ond dywedodd fod darpariaeth y Gymraeg yn bwnc y byddai disgwyl iddyn nhw graffu arno.

Roedd Stephen Crabb yn gytûn gyda Guto Bebb fod “cyfyngiadau” i Fesur Iaith 2011 a dywedodd fod Swyddfa Cymru am gynnal adolygiad o ddarpariaeth Gymraeg y cyrff sydd heb eu datganoli. Cadarnhaodd hefyd y bwriad i gael aelod o staff Comisiynydd y Gymraeg i weithio yn Swyddfa Cymru.

“Mae’r Llywodraeth yn ymrwymedig i ddarparu’r Gymraeg mewn meysydd sydd heb eu datganoli, ble y bo’r galw am hynny,” meddai Stephen Crabb.

Cymdethas yr Iaith: ‘Deddf Iaith 1993 wedi hen chwythu ei phlwc

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar i Ysgrifennydd Gwladol Cymru David Jones sicrhau bod adrannau Llywodraeth Prydain yn cydymffurfio â Safonau newydd Mesur y Gymraeg 2011.

Wrth ymateb i drafodaeth Guto Bebb, dywedodd Siân Howys, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

“Mae’r ateb i bryderon Guto Bebb yn syml. Mae’r grym gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan y Mesur i sicrhau bod adrannau Llywodraeth San Steffan yn cydymffurfio â Safonau newydd Mesur y Gymraeg 2011.

“Galwn felly ar yr Ysgrifennydd Gwladol, David Jones, i ddatgan y bydd yn rhoi ei gydsyniad i gynnwys y cyrff hyn o dan y gyfundrefn Safonau, er mwyn rhoi diwedd ar yr holl ansicrwydd.”

“Does dim dwywaith bod cyrff y Goron yn cynnig gwasanaethau pwysig i bobl Cymru, a’i bod yn hanfodol sicrhau tegwch i’r Gymraeg yn y gwasanaethau hynny.  Fodd bynnag, nid drwy Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 mae sicrhau hynny.

“Methodd y Ddeddf honno yn llwyr o safbwynt sicrhau tegwch i’r Gymraeg gan gyrff y Goron. Mae adrannau o’r Llywodraeth yn San Steffan yn tramgwyddo ar hawliau pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn barhaus, ac mae’r carchardai a’r llysoedd yn enghreifftiau gwarthus sydd wedi cael sylw yn ddiweddar.

“Mae Deddf 1993 wedi hen chwythu ei phlwc, ond mae Mesur y Gymraeg 2011 yn cynnig fframwaith cryfach ar gyfer sicrhau gwasanaethau Cymraeg drwy gyfundrefn Safonau,” meddai Siân Howys.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Nodi Camddefnydd
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y ddolen ’Nodi camddefnydd’ sy’n ymddangos wrth ymyl pob sylwad. Os bydd dau berson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.


John , Tachwedd 20, 2012 8:25 pm

Sawl blydi tro sydd rhaid i bobl graffu ar y ddeddf yma. Fase’n dda gen i ‘se San Steffan wedi gwneud ei job yn iawn yn craffu ar y Bancars, yr FSA, a rhyfeloedd tramor yn lle ei hobsesiwn imperialaidd efo bychanu’r Gymraeg a’i chadw yn ei lle.

§| Nodi camddefnydd

John , Tachwedd 20, 2012 8:46 pm

ymddiheuriadau, meddwl ‘mod i wedi cam-ddarllen. Oes yw Guto Bebb yn edrych i gryfhau’r Gymraeg o fewn San Steffan yna bob nerth iddo.

§| Nodi camddefnydd

Sion , Tachwedd 20, 2012 9:17 pm

Anodd dweud John. Ydy mae’n ymddangos ar un olwg mai cryfhau sefyllfa’r Gymraeg mae Guto Bebb am wneud drwy son am gyrff Llywodraeth Prydain. Ond fel chi’n awgrymu mae un dyfyniad uchod yn peri pryder:

“Cynigiodd Guto Bebb y gallai’r Pwyllgor Dethol Cymreig yn San Steffan graffu ar ddarpariaeth y Gymraeg yn yr adrannau sydd heb eu datganoli, ar y cyd gyda Chomisiynydd y Gymraeg.”

Y Pwyllgor Materion Cymreig?! Byddai dod a gwleidyddiaeth mewn i’r mater mewn ffordd mor uniongyrchol yn creu sefyllfa bizarre ar y gorau, trychinebus ar y gwaethaf. Mae ganddon ni rywun i gadw llygad ar yr iaith, gyda staff sy’n deall y gwaith, sef y Comisiynydd Iaith Meri Huws, sy’n annibynnol ar bob llywodraeth. Hi felly ddylai fod yn craffu ar ddarpariaeth Gymraeg Llywodraeth Prydain fel bydd hi’n gwneud gyda sefydliadau eraill gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Os yw Cymdeithas yr Iaith yn dweud uchod bod hynny’n bosib, gret. Finnau hefyd felly yn edrych ymlaen i glywed beth sydd gan David Jones i’w ddweud am y mater.

§| Nodi camddefnydd

Emyr Lewis , Tachwedd 20, 2012 11:42 pm

Gyda phob parch i bawb, mae angen bod yn realistig.

Mae cymhlethdod prosesau Mesur Iaith 2011 yn golygu y bydd hi’n ddwy flynedd o leiaf cyn bod gorfodaeth ar gyrff cyhoeddus i gydymffurfio a safonau iaith. Yn y cyfamser mae’r cynlluniau iaith yn dal mewn grym, er gwaethaf diddymu Bwrdd yr Iaith.

Mae adrannau San Steffan oedd efo cynlluniau iaith dan Ddeddf 1993 yn dal yn rhwym i’r cynlluniau hynny, ac mae gan y Comisiynydd yr un pwerau (cyfyngedig) a Bwrdd yr Iaith i ymchwilio mewn i fethiant a chyd-ymffurfio a nhw.

Does dim esgus cyfreithiol gan adrannau San Steffan sydd efo cynlluniau iaith dros wanhau eu darpariaeth. Does dim esgus moesol gan y gweddill.

§| Nodi camddefnydd

Sion , Tachwedd 21, 2012 3:01 pm

Os ydym am fod yn realistig, gwell derbyn mai yn Saesneg y bydd gwasanaethau Llywodraeth Prydain. Efallai eu bod yn rhwym i’r cynlluniau ar bapur, ond yn y byd go iawn dydyn nhw’n golygu dim. Mae cael gwasanaeth mewn unrhyw iaith gan y llywodraeth yn mynd yn anoddach o hyd, ond mae cael gwasanaeth Cymraeg mewn unrhyw ffordd (ffonio, ebost, wyneb yn wyneb, gwefannau, ffurflenni) bron a bod yn amhosib heb frwydr barhaus.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Nodi Camddefnydd
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y ddolen ’Nodi camddefnydd’ sy’n ymddangos wrth ymyl pob sylwad. Os bydd dau berson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.