Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth yn dilyn damwain ffordd ddifrifol yn Aberfan bore ma.

Cafodd dynes 65 oed o Ferthyr ei chludo i Ysbyty Tywysog Siarl gydag anafiadau difrifol ar ôl i’w char Ford Focus fod mewn gwrthdrawiad a lori sbwriel ar Heol Caerdydd tua 7.08yb.

Ni chafodd unrhyw un arall eu hanafu’n ddifrifol yn y gwrthdrawiad.

Mae’r Heddlu’n apelio am dystion i’r digwyddiad – maen nhw awyddus i siarad â rhai oedd yn teithio mewn fan a char ac a welodd y ddamwain. Fe ddylai unrhyw un gyda gwybodaeth ffonio 01656 869332 neu 101.