
Bydd corff newydd yn cael ei lansio yn y flwyddyn newydd i wrthwynebu codi 332,000 o dai newydd yng Nghymru, ac i bwyso am reolaeth lwyr o adnoddau fel dŵr a thrydan.
Bwriad Mudiad Hawliau Cenedlaethol Cymru yw torri’r gyfraith er mwyn “mynnu bod Cymru yn cael yr hawl i fyw fel cenedl”.
“Yn ystod y flwyddyn i ddod byddwn yn herio bwriad y Llywodraeth i godi 332,000 o dai newydd yng Nghymru dros y pymtheg mlynedd nesaf, bwriad bydd yn denu yn agos i filiwn arall o fobl i Gymru a hynny heb unrhyw feddwl am yr effaith bydd hynny’n gael ar ein cymunedau,” meddia Geoff Ifans o’r Mudiad newydd.
“Bwriadwn hefyd lawnsio ymgyrch dros sicrhau reolaeth cenedlaethol dros ein dŵr ag ynni. Mae gan Gymru lywodraeth yn ein prif ddinas a dyna’r llywodraeth ddylai gael reolaeth lwyr dros ein hadnoddau. Mae’n hen bryd i Gymru cael ei thalu am y dŵr a’r trydan ry’n ni’n allforio i Loegr er mwyn defnyddio’r arian i leihau biliau’r Cymry a gosod sylfaen tecach i ddenu cwmniau i ymsefydlu yma.”
Gail Bach, Felinheli , Rhagfyr 7, 2012 1:43 pm
§| Nodi camddefnydd