Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Beirniadu cyngor am beidio â thalu Cyflog Byw i weithwyr

Rhagfyr 13, 2012 08:35, Diweddarwyd am 17:44


Y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths
Mae Plaid Cymru wedi beirniadu penderfyniad cyngor Sir Caerfyrddin i beidio â thalu Cyflog Byw i weithwyr sydd ar gyflogau isel.

Yn ystod dadl yng nghyfarfod llawn y Cyngor bnawn ddoe, dywedodd arweinydd grŵp Plaid Cymru, y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, ei bod hi’n “warthus” bod y cyngor yn talu cyflog mor isel i gannoedd o staff, a galwodd ar y Bwrdd Gweithredol i ailystyried.

Roedd y Blaid wedi gofyn i’r cyngor gefnogi cais i gyflwyno Cyflog Byw i staff mewnol yn ogystal â rhai sy’n cael eu cyflogi o dan gytundebau allanol.

Roedd y cais wedi dod gan undeb Unsain wnaeth gynnal protest tu allan i Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin ddoe yn galw am godiad cyflog i chwarter o staff y cyngor.

Mae Cyflog Byw yn £7.45 yr awr o’i gymharu â lleiafswm cyflog sydd yn £6.19.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Nodi Camddefnydd
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y ddolen ’Nodi camddefnydd’ sy’n ymddangos wrth ymyl pob sylwad. Os bydd dau berson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.


Dafydd , Rhagfyr 13, 2012 9:16 am

Mae Cyflog Byw yn £7.45 yr awr o’i gymharu â lleiafswm cyflog sydd yn £6.38.

£6.19 yw’r lleiafswm cyflog yn y DU i unrhyw yn dros 21 mlwydd oedd. O le mae’r ffigwr £6.38 yn dod? Neu oes gan y cyngor leiafswm cyflog sy’n wahanol i weddill y wlad?

§| Nodi camddefnydd

cyngor , Rhagfyr 13, 2012 9:18 am

onid 6.19 yw’r isafswm cyflog?

§

gaynor , Rhagfyr 13, 2012 4:31 pm

mae digon o arian gan y cyngor i dalu dros £160k yf i’r prifweithredwr a gwastraffu milynau o arian yn subo parc y Scarlets a chynlluniau dros ben llestri eglwys adweithiol newydd yn Nhreioan, blaenoriaethau rhyfedd iawn. Mae#r awdurdodau lleol allan o reolaeth yn llwyr yn cwtogi ar y rhes flaen ond yn pluo nythod yr elite a chynlluniau ffuantus fydd yn gwaedu y trethdalwyr am flynyddoedd

§| Nodi camddefnydd

CGT , Rhagfyr 13, 2012 5:38 pm

Credaf mai UNSAIN yw’r undeb. Enw ar redwr nodedig yw Usain.

§| Nodi camddefnydd

CGT , Rhagfyr 13, 2012 7:38 pm

Na welliant !

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Nodi Camddefnydd
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y ddolen ’Nodi camddefnydd’ sy’n ymddangos wrth ymyl pob sylwad. Os bydd dau berson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.