McEvoy
Mae cynghorydd a ddywedodd ei bod hi’n “hollol annerbyniol” nad oedd gwasanaeth cyfieithu yn siambr Cyngor Caerdydd, yn teimlo bod tro pedol y cyngor ar y mater wedi cyfiawnhau ei safiad.

Fis diwethaf roedd y Cynghorydd Neil McEvoy wedi cwyno am nad oedd yn bosib iddo siarad ar goedd yn Gymraeg yn siambr Cyngor Caerdydd, a neithiwr cafodd  gwasanaeth cyfieithu ei ddarparu am y tro cyntaf yn y cyfarfod llawn.

“Siaradodd pedwar cynghorydd yn Gymraeg neithiwr, a dw i’n diolch i Gabinet y Cyngor a Phrif Chwip y Grŵp Llafur am eu cefnogaeth,” meddai Neil McEvoy.

“Fe welon ni normaleiddio’r defnydd o’r Gymraeg yn y siambr ac mae’n argoeli’n dda ar gyfer y dyfodol,” ychwanegodd.

Cyn-Ddirprwy Arweinydd

Bu’r Cynghorydd McEvoy yn Ddirprwy Arweinydd tan eleni yn ystod gweinyddiaeth y Democratiaid Rhyddfrydol-Plaid Cymru, ac mewn ateb i’r cwestiwn am le’r Gymraeg yn y siambr pan oedd yntau mewn grym dywedodd:

“Roedd gwasanaeth cyfieithu ar gael bryd hynny, ond yr arfer oedd bod cynghorwyr yn dweud ychydig eiriau yn Gymraeg ac yna yn eu cyfieithu i’r Saesneg eu hunain.

“Y cam nesaf yw darparu gwasanaeth cyfieithu yng nghyfarfodydd y Cabinet,” meddai.

‘Dweud nid gwneud’

Wrth gyhoeddi’r gwasanaeth cyfieithu newydd ddoe dywedodd yr Aelod Cabinet dros Chwaraeon, Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Huw Thomas, mai “gwneud nid dweud yw gweledigaeth y weinyddiaeth Lafur hon.

“Gwnaethom ymrwymo yn ein maniffesto i drin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal a dyma’r cam cyntaf i gyflawni’r ymrwymiad hwnnw.

“Nid oes yr un weinyddiaeth yn y gorffennol wedi darparu cyfieithu ar y pryd yng nghyfarfodydd y Cyngor ac mae’r cam hwn yn pwysleisio ein hymroddiad i helpu’r Gymraeg ffynnu.”