Mae corff hawliau darlledu cerddorion Cymraeg Eos wedi dweud eu bod nhw’n “siomedig iawn” gyda’r BBC am ryddhau datganiadau tra bod y broses drafod yn mynd yn ei blaen.
Y bore yma fe ddywedodd Rhodri Talfan Davies, boss BBC Cymru, bod Eos yn dal i geisio hawlio deg gwaith yn fwy o daliad nag y maen nhw’n ei gael ar hyn o bryd.
Ond yn ôl Dafydd Roberts, cyfarwyddwr bwrdd Eos, “anwiredd llwyr” ydy honiad y BBC eu bod ond yn fodlon setlo am godiad o ddeg gwaith yn fwy na’r tâl presennol.
“Mae hynna’n anghywir a dydy o ddim yn helpu fod y BBC yn gwneud y sylwadau hyn,” meddai Dafydd Roberts wrth golwg360.
“Y gwir ydy fod Eos wedi dod i lawr yn fwy o’r pitch gwreiddiol nag y mae’r BBC wedi mynd i fyny.”
‘Yn barod i drafod dros y Nadolig’
Mae’r cyfansoddwyr a’r cyhoeddwyr Cymraeg yn galw am daliad uwch na’r 50c y funud sydd ar gael ar hyn o bryd, ond nid yw Eos na’r BBC wedi datgelu’r union ffigurau.
Mi fyddai talu deg gwaith yn fwy yn golygu £5 y funud am gân.
Ond mae golwg360 ar ddeall fod y BBC yn dadlau dros daliad o lai na thraean hynny, sef tua £1.50 y funud.
Ar Ionawr 1 bydd hawliau darlledu ar gyfer y 297 o gyfansoddwyr a 34 o gwmnïau cyhoeddi cerddoriaeth sy’n aelodau o Eos yn cael eu trosglwyddo o’r PRS i Eos.
Cwtogi oriau Radio Cymru
Dywedodd Siân Gwynedd, Pennaeth rhaglenni a gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, eu bod nhw’n “siomedig iawn bod yr holl opsiynau oedd y BBC wedi eu cynnig yn gynharach yr wythnos yma wedi cael eu gwrthod.”
Ychwanegodd y bydd peidio darlledu swmp mawr o gerddoriaeth Gymraeg yn “cael effaith andwyol iawn ar wasanaeth Radio Cymru.”
“Mi fyddwn ni edrych ar y math o wasanaeth y byddwn ni’n ei gynnal, yn amlwg mae gynnon ni nifer o raglenni fel newyddion a chwaraeon fydd yn parhau, mi fyddwn ni yn gorfod gostwng yr oriau darlledu… ac yn anffodus rydan ni wedi gorfod cysylltu ag ymddiriedolaeth y BBC ddoe i’w rhybuddio nhw o’r perygl yna.
“Dyw hynny ddim yn gam da’ ni wedi ei gymryd yn ysgafn, yn amlwg mae’n ddifrifol iawn.”