David Jones
Yn ei neges flwyddyn newydd mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi brolio llwyddiant yr Olympics a’r Jiwbili.

Hefyd mae David Jones yn dweud fod  Lywodraeth Cymru am gael £674 miliwn yn ychwanegol gan Ganghellor Llywodraeth Prydain.

Ac mae’n honni fod llawer o ddynion busnes yn hyderus ar gyfer dyfodol yr economi wrth i’r nifer mewn gwaith gynyddu.

Olympics a Jiwbili wedi tanio dychymyg y byd

“Nid oes amheuaeth bod 2012 wedi bod yn flwyddyn arbennig iawn i Brydain Fawr mewn sawl ffordd. Roedd cyflawniadau athletwyr Tîm Prydain Fawr a Thîm Paralympaidd Prydain Fawr yng ngemau Llundain 2012 yn ysbrydoledig, ac fe wnaeth dathliadau’r Jiwbili Diemwnt danio dychymyg cynulleidfaoedd ledled y byd. Yr haf hwn, fe wnaethom fanteisio i’r eithaf ar y cyfle i arddangos Prydain ar ei gorau ar lwyfan byd-eang.”

Economi ar i fyny a mwy o £££ i Gymru

“…mae’r ddwy set ddiweddaraf o ffigurau’r farchnad lafur wedi dangos bod diweithdra’n disgyn, a bod cyflogaeth yn codi, ac mae cwrdd â llawer o’r arweinwyr busnes a ddywedodd fod ganddynt hyder newydd yn y dyfodol wedi codi fy nghalon.

Yn wir, yn 2012, nododd y Llywodraeth ei huchelgais i fynd i’r afael â’r gofynion economaidd mae’r wlad yn eu hwynebu yn uniongyrchol.

Yn ei Ddatganiad Hydref eleni, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys y bydd Cymru yn cael budd o £227 miliwn ychwanegol o gyllid cyfalaf. Bydd cyfanswm o £674 miliwn o arian ychwanegol, felly, wedi’i roi i Lywodraeth Cymru yn ystod cyfnod yr Adolygiad o Wariant hwn.”