Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Plaid yn beirniadu codiad cyflog i gyn bennaeth prifysgol

Ionawr 3, 2013 15:03


Prifysgol Cymru
Mae Plaid Cymru wedi beirniadu codiad cyflog o bron i £20,000 y flwyddyn i gyn-Is-Ganghellor Prifysgol Cymru.

Roedd cyflog yr Athro Marc Clement wedi  codi o £121,082 yn 2010-11 i £140,150 y flwyddyn yn 2011-12, yn ôl Plaid Cymru yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth.

Roedd hefyd wedi derbyn tal  “honorariwm dewisol” o £10,000 yn 2010-11.

Daeth yr Athro Clement wedyn yn Llywydd Prifysgol Cymru ym mis Hydref 2011 gyda chyflog o £140,150 y flwyddyn, ond cadarnhawyd ym mis Gorffennaf eleni ei fod yn cymryd swydd newydd ym Mhrifysgol Abertawe. Bu swydd y Llywydd yn wag ers hynny.

‘Sylw anffafriol’

Dywedodd Plaid Cymru ei bod yn anodd deall y penderfyniad i roi codiad cyflog iddo a hynny yn sgil yr  anghydfod ynghylch graddau tramor.

Dywedodd Lindsay Whittle, AC Plaid Cymru dros Ddwyrain De Cymru: “Bydd yn anodd gan y cyhoedd ddeall sut y cafodd y cyn-Is-Ganghellor godiad yn ei gyflog sylfaenol o ystyried y sylw anffafriol a gafodd y brifysgol yn ystod ei amser yn y swydd.

“Mae’n anodd deall hefyd sut y daethpwyd i benodi’r Athro Clement wedyn yn Llywydd ar gyflog chwe-ffigwr arall.”

Ymddiswyddodd pennaeth coleg ym Malaysia oedd â chysylltiadau â’r Brifysgol ym mis Tachwedd 2010 yng nghanol ymchwiliad i’w gymwysterau ffug.

Yna, ym mis Hydref y llynedd, cyhoeddwyd y buasai Prifysgol Cymru yn rhoi’r gorau i ddilysu graddau gan brifysgolion a sefydliadau academaidd gartref a thramor. Dywedodd gwleidyddion ar y pryd fod Prifysgol Cymru wedi dwyn “gwarth” ar enw’r genedl.

Cyhoeddwyd ym mis Hydref 2011 y bydd Prifysgol Cymru yn uno gyda dau sefydliad arall o dan Siarter Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yn 2017-18.

Rhyddhawyd y ffigyrau gan y brifysgol yn dilyn cwyn gan Blaid Cymru i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Dywed Prifysgol Cymru bod pwyllgor wedi trafod ac wedi cytuno gyda’r taliadau i’r Athro Clement.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Nodi Camddefnydd
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y ddolen ’Nodi camddefnydd’ sy’n ymddangos wrth ymyl pob sylwad. Os bydd dau berson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.


DC , Ionawr 3, 2013 4:46 pm

Oni fyddech chi’n disgwyl bod un sydd wedi bod mor effeithiol wrth weithredu rhan o bolisi “f***k Wales” mandarins y gwasanaeth sifil ‘Prydeinig’ yn cael ei wobrwyo yn y fath fodd?

Y mandarins? Y rhai sy’n disgwyl i ni roi ein dwr a’n hynni gwynt am ddim i ddinasoedd Lloegr, ein tirlun i’w twristiaid, ein pobl ifanc i’w ffatrioedd a’u busnesau, ein hiaith ar un ochr er eu cyfleustra. Y rhai sy’n disgwyl i Lywodraeth Cymru gyflwyno eu cerrig (‘cohones’) iddyn nhw ar blat. Y rhai sy’n dwyn ein sefydliadau – S4C, Prifysgol Cymru, Radio Cymru – oddi arnom ni oherwydd bod pethau felly’n gwneud i ni gofio mai Cymry ydyn ni a Chymru ydi’n gwlad ac nid ‘England with a good singing voice’.

§| Nodi camddefnydd

Delwyn Williams , Ionawr 3, 2013 6:13 pm

Marc Clement yn cael £140,150 y flwyddyn – £140,150! – dwi methu deallt hyn o gwbwl. Sut all nhw cyfiawnhau hyn tra rydym yn gweld toriadau i bawb yn y sector cyhoeddus. Hollol gwarthus.

§| Nodi camddefnydd

Guto Goch , Ionawr 3, 2013 6:15 pm

Ti wedi taro’r hoelen ar ei phen, DC.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Nodi Camddefnydd
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y ddolen ’Nodi camddefnydd’ sy’n ymddangos wrth ymyl pob sylwad. Os bydd dau berson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.