Lyn Prosser
Mae wyth o ddynion gafodd eu harestio ar amheuaeth o lofruddio dyn tu allan i dafarn yng Nghaerdydd nos Sul, wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Bu farw Lyn Prosser, 44, o Beddau, Pontypridd yn dilyn digwyddiad tu allan i dafarn O’Neill’s yn Heol y Santes Fair yng Nghaerdydd.

Mae’r heddlu’n parhau i apelio am lygad-dystion i’r digwyddiad toc wedi 11 yh nos Sul, 13 Ionawr, neu unrhyw un a allai fod wedi recordio’r digwyddiad ar eu ffon symudol.

Mae archwiliad post mortem wedi methu a darganfod achos marwolaeth Lyn Prosser a dywed yr heddlu y bydd yn rhaid cynnal rhagor o brofion.

Dywed yr heddlu bod ei deulu wedi cael gwybod am y datblygiadau diweddara.

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu yng Nghaerdydd ar 02920 527303 neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.