Y datblygiad siopa
Mae gwraig sy’n gwrthod gwerthu ei chartref i wneud lle ar gyfer datblygiad siopa mawr yn Aberystwyth yn mynnu y bydd hi’n aros yno.

Yr wythnos hon mae Cabinet Cyngor Ceredigion wedi rhoi sêl bendith i’r datblygiad yn Dan Dre, sy’n cynnwys Tesco a Marks and Spencer, ac mae swyddogion y cyngor wedi cael eu hawdurdodi i arwyddo contractau gyda’r datblygwyr Chelverton Deeley Freed.

Ond mae Enid Jones o Ffordd Glyndŵr yn dweud ei bod hi heb glywed gan y Cyngor na’r datblygwyr.

“Dwi’n gwybod dim. Ers iddyn nhw benderfynu bod nhw eisiau fy nhŷ i dwi heb gael clywed dim.

“Sai di gwerthu’r tŷ a sai’n mynd i. Fi bia fe,” meddai Enid Jones, sy’n dioddef o glefyd diabetes ac yn dweud fod y tŷ’n ddelfrydol ar gyfer ei hanghenion.

Gorfodi trigolion i werthu?

Roedd Cabinet Cyngor Ceredigion wedi cefnogi cais y llynedd i orfodi trigolion sy’n byw ar safle’r datblygiad i werthu eu tai, os fyddan nhw’n dod i gytundeb gyda’r datblygwyr.

Mae’r cyngor wedi dweud wrth Golwg360 fod trafodaethau gyda thrigolion lleol yn parhau.

“Mae’r trafodaethau yn parhau rhwng datblygwr dewisol y Cyngor a’r trigolion hynny yn Ffordd Glyndŵr sydd heb eto fentro i gytundeb,” meddai llefarydd o Gyngor Ceredigion.

“Ni fydd y mater o bryniant gorfodol yn cael ei ystyried tra bod y trafodaethau hyn yn parhau.”

Mae Cyngor Ceredigion yn dadlau y bydd y datblygiad siopa yn dod â budd economaidd i’r dre ac mae Siambr Fasnach Aberystwyth wedi croesawu’r cynlluniau.