Y storfa ar dân yn Leeds
Mae tua cant o ddiffoddwyr yn ceisio diffodd tân enfawr mewn adeilad sy’n cael ei ddefnyddio i storio cemegau mewn canolfan ailgylchu ar gyrion Leeds.

Fe gafodd y diffoddwyr eu galw i ganolfan Tradpak Recycling toc wedi hanner awr wedi dau y bore yma.

Roedd y fflamau i’w gweld uwchben y ddinas a ffrwydriadau i’w clywed am y rhan fwyaf o’r nos.

Bu’n rhaid gofyn i’r gynulleidfa mewn canolfan gelfyddydol gyfagos adael yr adeilad ar frys.

Heddiw mae trigolion sy’n byw yn agos i Tradpak Recycling wedi cael eu cynghori i gadw’r drysau a’u ffenestri ar gau gan fod disgwyl i’r adeilad a dau arall fod ar dân am weddill y dydd.

Mae’r heddlu wedi dweud beth bynnag nad ydi’r mwg yn wenwynig.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Acub Gorllewin Swydd Efrog ei bod yn llawer rhy fuan i ddweud beth achosodd y tân.