Mae dynes wedi cael ei harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ar ôl i dri o blant gael eu darganfod yn farw mewn tŷ yn Llundain.

Cafodd swyddogion eu galw i dŷ yn New Malden, de Llundain, tua 9:30 o’r gloch neithiwr a dyna pryd y daethpwyd o hyd o’r plant.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Llundain: “Mae dynes 43 oed wedi cael ei harestio ac yn dal i fod yn y ddalfa.

“Dydyn ni ddim yn chwilio am unrhyw un arall yn gysylltiedig gyda’r digwyddiad.”

Does dim rhagor o fanylion eto am achos marwolaeth y plant.