Palas Buckingham
Mae un o swyddogion diogelwch y teulu brenhinol wedi cael ei arestio wedi i ffrwydron gael eu darganfod yn ei locer yn y palas.

Dywedodd Heddlu Scotland Yard fod lle i gredu bod y ffrwydron yn eiddo Heddlu Llundain.

Mae’r dyn yn cael ei holi wedi iddo gael ei arestio ar amheuaeth o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus ac o fod â ffrwydron yn ei feddiant.

Mae e wedi cael ei ddiarddel o’i waith tra bo’r ymchwiliad yn parhau.

Cafodd y Gyfarwyddiaeth Safonau Proffesiynol eu galw ychydig wythnosau yn ôl yn dilyn y digwyddiad.

Mae’r heddlu wedi bod yn archwilio tŷ’r swyddog ac adeilad yr heddlu ar dir y palas lle cafodd y ffrwydron eu darganfod.