Mae tri o bobl wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio ar ôl i gorff dynes gael ei ddarganfod ar dir ysgol yn yr Amwythig.

Cafwyd hyd i gorff y ddynes, sydd yn ei 20au, ar dir yr ysgol gynradd, toc wedi hanner nos neithiwr gan aelod o Heddlu Gorllewin Mercia.

Mae dau ddyn 32 a 39 oed ac un ferch 31 oed yn cael eu holi gan yr heddlu ynglŷn â’r farwolaeth.

Mae’r ysgol ar Featherbed Lane wedi cau tan o leiaf ddydd Mercher yn sgil yr ymchwiliad.

Mae teulu’r ddynes wedi cael gwybod am y farwolaeth a bydd ymchwiliad post mortem yn cael ei gynnal.