Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Alun Michael, wedi cyhoeddi cynlluniau i ddiogelu lefelau plismona yn ne Cymru gyda chynnydd o 5% yn yr arian mae trethdalwyr yn ei dalu trwy dreth y cyngor am blismona.

Er hynny, bydd Heddlu De Cymru yn parhau i fod â’r gost isaf i drethdalwyr o’r pedwar llu yng Nghymru.

Bydd y cynnydd yn y dreth gyngor, sy’n cyfateb i 11-15 ceiniog ychwanegol yr wythnos ar gyfer y rhan fwyaf o gartrefi, yn codi £5m ychwanegol i’r llu.

Gyda thoriadau yn ei gyllideb gan y Llywodraeth a newidiadau yn y ffordd mae arian yn cael ei rannu, meddai Heddlu De Cymru ei fod yn wynebu toriadau ariannol o tua £9m eleni a £27 miliwn dros y pedair nesaf.

Erbyn 2019, bydd Heddlu De Cymru wedi gweld toriadau gwerth £70 miliwn yn ei gyllideb ers 2010.

Meddai Alun Michael: “Rwy wedi siarad â’n partneriaid mewn llywodraeth leol, a gyda chynrychiolwyr cymunedau lleol.

“Mae eu dymuniad i gynnal gwasanaeth heddlu lleol, effeithiol, sy’n cadw pobl yn ddiogel wedi cael ei wneud yn glir i mi.

“Mae Heddlu De Cymru yn parhau i fod y gwerth gorau am arian o ran y gost i bobl sy’n talu treth gyngor yng Nghymru, ac mae wedi cael ei gydnabod gan weinidogion fod heddluoedd sy’n cael eu hariannu gan lefelau uwch o grant a lefelau is o’r dreth gyngor yn fwy agored i effeithiau toriadau.”