Mae dyn 46 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ar ôl i ddyn gael ei saethu ger Abercynon yn Rhondda Cynon Taf neithiwr.

Mae’r dyn, o Aberpennar, yn cael ei gadw yn y ddalfa.

Cafodd Mark Jones, 43 oed, o Aberpennar ei gludo i Ysbyty Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful ar ôl y digwyddiad ar yr A4059 rhwng Aberpennar ac Abercynon neithiwr.

Mae’n parhau mewn cyflwr difrifol.

Yn ôl llygad dystion cafodd dau ergyd o wn eu clywed yn cael eu tanio o gar Audi A3 gwyn tua 7.40yh nos Sul.

Mae Heddlu’r De yn parhau i ymchwilio i’r digwyddiad ac yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un a oedd wedi clywed gan Mark Jones, neu wedi ei weld yn ystod y nos neithiwr.

Mae’r heddlu hefyd yn awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd beth ddigwyddodd, neu’r car neu unrhyw un a oedd yn yr ardal  rhwng 7.30yh a 8yh.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu’r De ar 02920 527303 neu 101 gan nodi’r rhif cyfeirnod 1500271720, neu Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555111.

Roedd yr A4059 wedi bod ynghau ers y digwyddiad neithiwr ond mae bellach wedi ail-agor.