
Kyle Griffith
Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu i gynnal ymchwiliad i’r ffordd yr oedd yr heddlu wedi dilyn car ychydig cyn marwolaeth Kyle Griffith, 25 oed, yng Nghaerdydd ym mis Ionawr.
Yn ystod oriau man 10 Ionawr roedd dau blismon o Heddlu’r De wedi rhoi signal i gar Fiat Cinquecento glas i stopio yn Ffordd Penarth, Caerdydd.
Fe fethodd y gyrrwr a stopio a chafodd ei ddilyn drwy ganol y ddinas i Fae Caerdydd lle bu’r Fiat mewn gwrthdrawiad â Kyle Griffith o Thornhill, Caerdydd.
Cafodd Kyle Griffith anafiadau difrifol o ganlyniad i’r gwrthdrawiad a chafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd ond bu farw’n ddiweddarach.
Ymchwiliad
Dywedodd Comisiynydd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu yng Nghymru, Tom Davies, eu bod yn cydymdeimlo â theulu a ffrindiau Kyle Griffith.
Ychwanegodd: “Bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar y modd y cafodd y sefyllfa ei rheoli gan gynnwys y penderfyniadau a wnaed yn yr ystafell reoli.”
Dywedodd y byddai’r heddlu yn parhau i ymchwilio i farwolaeth Kyle Griffith.
“Mae’r heddlu wedi arestio a chyhuddo dyn 22 oed ar amheuaeth o lofruddiaeth a bydd yr ymchwiliad troseddol yn cael blaenoriaeth,” meddai.