
Aethpwyd a dyn 36 oed i’r ysbyty ar ôl i’w fan wrthdaro â thrên ar groesfan ym Mhowys.
Cafodd Daniel Bellis ei drin gan barafeddygon yn y fan a’r lle ar ôl anafu ei frest a’i gefn yn y gwrthdrawiad ger Llanbrynmair toc wedi 12.30pm.
Roedd y fan wedi gwrthdaro â’r trên 10.09am o Birmingham i Aberystwyth. Ni ddioddefodd unrhyw un ar y trên anafiadau.
Agorodd y rheilffordd drachefn am 3.40pm. Yn y cyfamser roedd gwasanaeth bws rhwng yr Amwythig a Machynlleth.
Dywedodd llefarydd ar ran Network Rail eu bod nhw’n helpu Heddlu Trafnidiaeth Prydain â’u hymchwiliadau i’r hyn ddigwyddodd.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 0800 40 50 40.