Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Teyrngedau i athro fu farw mewn damwain bws yn Ffrainc

Chwefror 20, 2012 07:48


Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i’r athro fu farw mewn damwain bws oedd yn cludo plant ysgol yn ôl daith sgïo  yng ngogledd Ffrainc.

Bu farw Peter Rippington, 59 oed, a chafodd dwsinau eraill eu hanafu ar ôl i’w bws droi drosodd ger dinas Reims yn ardal Champagne-Ardenne yn ystod oriau man bore ddoe.

Mae profion ar yrrwr y bws, a gafodd fân anafiadau, yn dangos nad oedd o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau ond mae’r heddlu’n ymchwilio i’r posibilrwydd y gallai fod wedi syrthio i gysgu tra’n gyrru.

Dywed Heddlu Ffrainc bod y gyrrwr yn cael ei holi yn Chalons-en-Champagne.

Cafodd gwraig Peter Rippington, Sharon, a’u merch Amy hefyd eu hanafu yn y ddamwain – roedd y bws yn cludo 29 o ddisgyblion o Ysgol Alvechurch yn Swydd Gaerwrangon.

Roedd pedwar o bobl yn cael triniaeth am anafiadau difrifol neithiwr. Yn ôl rhai adroddiadau, mae 10 o bobl yn parhau yn yr ysbyty heddiw.

Dywedodd teulu Peter Rippington eu bod wedi tristau yn ofnadwy gan ei farwolaeth a’i fod yn ddyn “bendigedig”.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.