
Kirsty Jones
Mae ditectifs o Heddlu Dyfed-Powys oedd wedi teithio i Wlad Thai i ymchwilio i lofruddiaeth merch o Gymru yno yn 2000, yn dweud eu bod wedi cael cyfarfod calonogol gyda swyddogion yr heddlu yno.
Cafodd Kirsty Jones, 23, o Dredomen ger Aberhonddu ei threisio a’i chrogi tra’n teithio yng Ngwlad Thai 12 mlynedd yn ôl.
Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Steve Wilkins eu bod nhw wedi cael cyfarfod buddiol gyda’r Cyfarwyddwr Cyffredinol a swyddogion o’r adran ymchwilio.
‘DNA’
“Rydan ni wedi llwyddo i sicrhau eu hymrwymiad i ddod o hyd i’r person a lofruddiodd Kirsty ddeuddeg mlynedd yn ôl, a dod â nhw o flaen eu gwell.
“Rydyn ni wedi trafod sut i symud yr ymchwiliad ymlaen gan roi’r ffocws ar DNA. Rydan ni hefyd wedi trafod posibiliadau eraill fel rhan o’r ymchwiliad, ond fe fydda’ i’n trafod hyn gyda’r teulu cyn cymryd camau pellach,” meddai.
Roedd Kirsty Jones newydd ddechrau ar daith ddwy flynedd o gwmpas y byd, pan gafodd ei llofruddio.
Er gwaetha’r ffaith bod sawl person wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â’r achos dros y blynyddoedd, does neb erioed wedi eu cyhuddo mewn cysylltiad â’i marwolaeth.