Mae Dirprwy Brif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi’i orfodi i ymateb i’r sïon fod yna aelodau amlwg o blaid y Democratiaid Rhyddfrydol yn ffansïo eu hunain yn arweinwyr yn ei le.

“Mae Nick Clegg yn bwriadu bod yn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol heddiw, fory, trwy ymgyrch etholiadol 2015 a thrwy gydol y llywodraeth nesa’,” meddai llefarydd ar ei ran heddiw.

“Mae’n bwriadu arwain y blaid p’un ai ydan ni’n rhan o’r llywodraeth yn San Steffan ai peidio.”

Aeth y llefarydd yn ei flaen i ychwanegu: “Mae Nick Clegg yn mwynhau’n arw ei rôl yn Ddirprwy Brif Weinidog ac yn arweinydd ei blaid. Dim ond 47 mlwydd oed ydi oi.

“Pobol gwledydd Prydain fydd yn penderfynu os fydd y blaid yn cael ffurfio llywodraeth eto. Beth bynnag fydd yn digwydd, mae Nick Clegg yn bwriadu gwasanaethu am dymor llawn.”