Stephen Crabb
Mae Ysgrifennydd Cymru wedi awgrymu y bydd datrysiad yn y dyfodol agos dros bwy fydd yn talu am drydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd.

Dywedodd Stephen Crabb heddiw ei fod yn “obeithiol” y bydd “datblygiadau yn fuan” i ddatrys y broblem.

Dywedodd mai datrys y sefyllfa fydd ei brif flaenoriaeth yn dilyn ei benodiad i’r swydd yn gynharach yn y mis.

Cefndir

Mae Llywodraeth Lafur Cymru a’r Glymblaid yn San Steffan wedi bod yn dadlau ynglŷn â phwy ddylai dalu am y rheilffordd.

Mae’r prosiect yn cynnwys trydaneiddio lein Great Western i Abertawe a thrydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd.

Llywodraeth San Steffan ddylai dalu meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ond mae ei wrthwynebwyr yn Llundain yn dweud bod cytundeb wedi bod i rannu’r gost.

Mae’r prosiect yn cael ei weld fel un hanfodol er mwyn hybu economi de Cymru.

‘Llusgo mewn i’r ffrae’

Dywedodd Stephen Crabb mewn cynhadledd newyddion gyda Gweinidogion Swyddfa Cymru heddiw ei fod ef a Carwyn Jones wedi cael dau gyfarfod hyd yma.

Meddai: “Yn y cyfarfod cyntaf fe wnaeth y Prif Weinidog a finnau drafod sialens trydaneiddio’r rheilffyrdd.

“Rwy’n ymwybodol o’r perygl o gael fy llusgo mewn i’r ffrae a phwyntio bys ar bwy oedd ar fai. Y ffaith ydi ei fod yn sialens dechnegol o ran peirianneg sydd  hefyd yn brosiect drud.”

Mae’r ddadl yn ymwneud a’r gwahanol ffyrdd o sicrhau’r cyllid i Network Rail i wneud y buddsoddiad, meddai.

Ychwanegodd Stephen Crabb ei fo wedi cael cyfarfod gydag Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan, Patrick McLoughlin, yn dilyn ei gyfarfod a Carwyn Jones a dywedodd mai dyma yw ei flaenoriaeth ar hyn o bryd.

Dywedodd Stephen Crabb: “Dy’n ni ddim mewn sefyllfa i ddweud beth oedd canlyniad y trafodaethau ond rwy’n obeithiol y cawn weld datblygiadau yn gynnar o ran datrys y broblem anodd yma.”