Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cyhoeddi heddiw y byddai’r blaid yn cael gwared a’r doll i groesi Pont Hafren pe baen nhw mewn grym yn dilyn yr Etholiad Cyffredinol y flwyddyn nesa’.

Y toll i groesi’r pontydd yw’r drytaf ym Mhrydain. Mae’n costio £6.40 i gar, £12,80 i fan a hyd at £19.20 i fws neu lori.

Ond mae’r blaid yn honni y byddai cael gwared ar tollau yn rhoi hwb o tua £107 miliwn i economi Cymru ac yn arbed £1,536 y flwyddyn i deithwyr sy’n ei defnyddio yn rheolaidd.

Y Democratiaid Rhyddfrydol yw’r unig blaid sydd wedi dweud y byddai’n cael gwared ar tollau yn gyfan gwbl, gydag eraill yn dweud y bydden nhw’n lleihau’r gost.

Trefn

Ar hyn o bryd, cwmni preifat sy’n casglu’r tollau ac mae’r arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer costau cynnal a chadw’r pontydd – sy’n tua £15 miliwn y flwyddyn. Ond mae amcangyfrif y bydd y bontydd yn eiddo i’r llywodraeth erbyn 2018.

Dywedodd Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru:

“Mae’r blaid yng Nghymru ar ben ei digon ar ôl i ni sicrhau’r ymroddiad yma.”

“Fe fydd y cyhoeddiad yma’n cynnig hwb enfawr i economi Cymru, ac arbed rhyw £1,536 y flwyddyn i deithiwr nodweddiadol.

“Ni ddylid defnyddio’r tollau yma er mwyn codi arian i Lywodraeth Prydain na Llywodraeth Cymru chwaith. Mae tollau’n anghyffredin iawn yn y DU, a dw i ddim yn gweld unrhyw reswm pam ddylid codi tâl er mwyn dod i mewn i Gymru.”