Senedd yr Alban
Mae hi “y tu hwnt i amheuaeth” y byddai annibyniaeth i’r Alban yn effeithio swyddi yn y sector amddiffyn, meddai Aelod Seneddol heddiw.

Roedd llefarydd amddiffyn y Blaid Lafur, Vernon Coaker, yn ymweld â iard llongau Rosyth i gwrdd â staff sy’n gweithio ar gludwyr awyrennau’r Llynges Frenhinol, a chlywed eu barn am annibyniaeth i’r Alban.

Yn ogystal â swyddi adeiladu llongau ar y Clyde, mae miloedd o swyddi eraill yn y sector amddiffyn ar hyd a lled yr Alban.

Amcangyfrifir bod is-gytundebau gwerth £300 miliwn wedi cael eu dyfarnu i gwmnïau Albanaidd yn sgil adeiladu’r cludwyr awyrennau yn unig.

Dywedodd Vernon Coaker sy’n Aelod Seneddol dros Ddwyrain Canolbarth Lloegr bod “swyddi miloedd o Albanwyr yn ein diwydiant amddiffyn yn cael eu sicrhau drwy fod yn rhan o’r DU”.

Meddai: “Un peth rydym yn gwybod y tu hwnt i amheuaeth yw y byddai gadael y DU yn effeithio ar swyddi yn y sector amddiffyn.

“Nid yw Llywodraeth y DU erioed wedi dyfarnu cytundeb i adeiladu llongau rhyfel cymhleth y tu allan i’r DU. Dyw’r syniad y bydd popeth rhywsut yn parhau fel ag y mae, gan fod Alex Salmond yn dweud hynny, ddim yn gredadwy.”