Mae mwy o bobol nag erioed o’r blaen wedi cofrestru i bleidleisio yn refferendwm Yr Alban ar Fedi 18.

Mae 4.3 miliwn wedi cofrestru, gan gynnwys mwy na chwarter miliwn o bleidleisiau trwy’r post, sydd hefyd yn fwy nag erioed o’r blaen.

Mae 5,579 o orsafoedd pleidleisio yn barod i groesawu Albanwyr ar y diwrnod ac mae staff ychwanegol wedi cael eu cyflogi er mwyn sicrhau na fydd oedi hir wrth aros i bleidleisio.

Mae’r Prif Swyddog Etholiadau, Mary Pitcaithly wedi rhybuddio y bydd y gorsafoedd ar eu prysuraf yn ystod y bore ac yn y nos, gan annog pobol sy’n gallu pleidleisio yn ystod y dydd i wneud hynny.

Dywedodd pennaeth Swyddfa’r Alban o fewn y Comisiwn Etholiadol, Andy O’Neill ei fod yn croesawu’r cynnydd yn nifer y bobol sy’n bwriadu pleidleisio.

“Mae’n bwysig fod pleidleiswyr, yn enwedig y rhai sy’n pleidleisio am y tro cyntaf, yn treulio ychydig funudau’n darllen ein canllaw diduedd er mwyn eu helpu i gynllunio wrth iddyn nhw baratoi i bleidleisio, a sicrhau y caiff ei gyfri’n gywir trwy nodi ‘X’ drws nesaf i’w dewis.”