Cyngor Sir Ddinbych
Cyhoeddodd Cyngor Sir Ddinbych heddiw ei fod wedi newid ei bolisi ar gludo disgyblion i’r ysgol yn dilyn trafodaeth yng nghyfarfod y Cabinet yn Neuadd y Sir, Rhuthun.

Mae’r polisi bellach yn cynnwys mannau casglu canolog ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd, gyda chludiant am ddim i’r ysgol uwchradd addas sydd ar gael.

Bydd y newidiadau yn dod i rym ym mis Medi 2015 a chredir y bydd yn arbed bron i £300,000 y flwyddyn i’r cyngor.

Am gyfnod bydd disgyblion nad ydyn nhw’n mynychu eu hysgol agosaf yn parhau i gael cludiant i’w hysgol bresennol er mwyn atal tarfu ar eu haddysg, yn ôl y cyngor.

Cymraeg

Cytunodd Aelodau’r Cabinet i newid argymhelliad arall sef bod y Grŵp Strategol Addysg Gymraeg yn adolygu categorïau ieithyddol yr holl ysgolion yn ystod tymor yr Hydref a chyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Archwilio yn gynnar yng Ngwanwyn 2015.

Mae pryderon hefyd wedi cael eu codi yn flaenorol am yr effaith allai’r polisi newydd ei gael ar ddisgyblion sydd eisiau derbyn eu gwersi i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ond dadl y cyngor yw bod y polisi newydd yn fwy tryloyw na’r un blaenorol a’u bod wedi cymryd materion ieithyddol i ystyriaeth.

Bydd asesiad o effaith y polisi’n cael ei gynnal a’i adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Archwilio ar ôl blwyddyn i gyflwyno’r polisi.