David Cameron
Fe fydd David Cameron yn ceisio pwyso am ddiwygio’r Undeb Ewropeaidd mewn cynhadledd gydag arweinwyr eraill Ewrop heddiw.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog fynnu bod gwledydd “sy’n rhannu’r un meddylfryd” yn gweithio gyda’i gilydd i bwyso am undeb mwy “hyblyg” gyda’r ffocws ar fasnach rydd a chreu swyddi.

Ond fe fu ergyd i obeithion Cameron ar gyfer diwygiadau mwy pellgyrhaeddol, sy’n cynnwys mesurau i geisio atal rhyddid mewnfudwyr o fewn yr UE, ar ôl i ddau arweinydd arall rybuddio yn erbyn gwneud hynny.