Y Prif Weinidog David Cameron
Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi galw ar gwmnïau sy’n elwa ar y cwymp ym mhris olew fanteisio ar y cyfle i godi cyflogau eu gweithwyr.

Dywed fod y gostyngiad mewn costau yn hwb mawr i lawer o fusnesau ac y dylai eu gweithwyr gael elwa yn ei sgil.

Dywedodd y Prif Weinidog hefyd y dylai mwy o gwmnïau llwyddiannus fod yn talu’r cyflog byw o £7.85 yr awr.

Mae prisiau byd-eang olew wedi gostwng yn ddramatig dros y saith mis diwethaf o ganlyniad i gwymp yn y galw mewn llawer gwlad, a chynnydd yn yr olew sy’n cael ei gynhyrchu yn yr Unol Daleithiau.

“Yn amlwg, mae gen i eisiau gweld llwyddiant cwmnïau yn treiddio trwodd o safbwynt codiadau mewn cyflogau,” meddai David Cameron.

“Mae’n rhaid i hyn cael ei wneud mewn ffordd sy’n fforddiadwy, ac mewn ffordd y gall cwmnïau ddal i dyfu.

“Dylai’r cwmnïau a all fforddio talu’r cyflog byw wneud hynny. Mae’n beth da ac mae’n helpu lleihau ein bil budd-daliadau.”