Nicola Sturgeon, arweinydd yr SNP
Mae cefnogaeth gref i’r SNP yn Yr Alban cyn yr etholiad cyffredinol er gwaetha’r ffaith bod bron i hanner poblogaeth y wlad yn teimlo nad oedd y blaid wedi dweud y gwir am sut fyddai’r economi’n gweithio mewn gwlad annibynnol, mae arolwg barn wedi awgrymu.

Mae gan yr SNP gefnogaeth o 46% o bleidleiswyr ac mae Nicola Sturgeon yn parhau i fod yr arweinydd mae’r mwyafrif yn ymddiried ynddi gyda 60%.

Mae hyn yn cymharu â 26% i Lafur gyda 40% yn ymddiried yn eu harweinydd Jim Murphy, a 14% i’r Ceidwadwyr gyda 36% yn ymddiried yn Ruth Davidson, yn ôl arolwg barn Survation i’r Daily Record.

Mae ymddiriedaeth yn arweinwyr pleidiau’r DU yn parhau i fod yn isel yn yr Alban, gyda 35% yn ymddiried yn y Prif Weinidog, David Cameron, 38% yn ymddiried yn Ed Miliband a 29% yn ymddiried yn Nick Clegg.

Ond er gwaethaf y bleidlais o hyder yn yr SNP a’i arweinydd, dywedodd 47% eu bod nhw’n teimlo nad oedd yr SNP wedi dweud y gwir ynglŷn â’r economi petai’r Alban yn annibynnol.

Dim ond 37% oedd yn meddwl bod yr SNP wedi dweud y gwir, awgrymodd yr arolwg o 1,006 o bobl.

Ac ar drothwy dadl gan yr SNP, Plaid Cymru a’r Blaid Werdd ar ddyfodol arfau niwclear Trident yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw, dangosa’r arolwg fod 47.2% o Albanwyr yn erbyn cenhedlaeth newydd o’r arfau niwclear o’i gymharu â 31.6% o blaid.