Yr Ysgrifennydd Busnes Vince Cable
Mae’r Ysgrifennydd Busnes Vince Cable wedi awgrymu bod clymblaid rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol, Llafur a’r SNP yn bosib yn dilyn yr etholiad cyffredinol, fyddai’n golygu na fydd gan Blaid Cymru ddylanwad.

Mewn un o’r datganiadau fwyaf pendant gan wleidydd o’r prif bleidiau cyn mis Mai, dywedodd Vince Cable – all sefyll fel arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol os yw Nick Clegg yn colli ei sedd – na fyddai’n diystyru’r syniad o gyd-weithio gyda Llafur a’r SNP.

Fe wnaeth ei sylwadau ym mhapur newydd y Scotsman.

“Mae’n debygol o fod yn llywodraeth leiafrifol,” meddai yn ystod ymweliad a Chaeredin ddoe i lansio cynllun ynni adnewyddadwy gwerth £60 miliwn.

“Pan mae hynny’n digwydd mae yna bob math o ddewisiadau yn codi ac fe fyddai unrhyw blaid synhwyrol yn edrych ar y dewisiadau hynny.”

Ychwanegodd y byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn barod i gyd-weithio gyda’r ddwy blaid o dan y fath drefniant: “Byddai hynny yn bosib. Fyswn i yn bendant ddim yn ei ddiystyru.”

Daw wedi i’r Dirprwy Brif Weinidog ac arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg, ddweud yn ddiweddar y byddai’n ei chael hi’n anodd iawn dychmygu clymblaid gyda’r SNP.

Fis diwethaf, roedd Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon wedi cadarnhau y byddai ei phlaid, yr SNP, yn ystyried cydweithio gyda Phlaid Cymru a’r Gwyrddion i greu clymblaid gyda Llafur wedi’r Etholiad Cyffredinol.

Mae golwg360 wedi gofyn i Blaid Cymru am ymateb i awgrym Vince Cable.