John Major
Mae cyn Brif Weinidog wedi galw ar y Blaid Lafur i wneud yn glir na fyddan nhw’n taro bargen gyda’r SNP ar ôl yr etholiad nesa’.

Yn ôl John Major, fe fyddai plaid genedlaethol yr Alban, yn ymuno mewn partneriaeth er  mwyn ceisio chwalu’r Deyrnas Unedig.

Roedd hi’n “gywilyddus”, meddai, nad oedd yr arweinydd Llafur, Ed Miliband, eisoes wedi gwrthod partneriaeth o’r fath.

‘Trasiedi’

“Fe fydden nhw’n dibynnu ar gefnogaeth gan blaid a fydd yn defnyddio pob strategaeth bosib i dorri’n rhydd o’r Deyrnas Unedig,” meddai John Major mewn erthygl ym mhapur y Daily Telegraph.

Roedd hefyd yn  honni y byddai clymblaid rhwng Llafur a’r SNP yn gwneud drwg i bobol mewn rhannau eraill o wledydd Prydain.

“Mae yna drasiedi ar y gweill … dieithrio’r Albanwyr oddi wrth y Saeson,” meddai.

Y cefndir

Mae’r SNP wedi dweud yn bendant na fydden nhw’n gwneud dim i gefnogi llywodraeth Geidwadol yn San Steffan.

Ond, ar hyn o bryd, maen nhw’n sôn mwy am bartneriaeth cefnogaeth o bwnc i bwnc gyda Llafur hefyd.

Yn ôl y polau piniwn diweddara’, fe fyddai’r SNP yn ennill mwyafrif llethol seddi’r Alban gan chwalu cefnogaeth y Blaid Lafur.