Mae cynllun i wella cyfleusterau chwaraeon a hamdden lleol ledled Cymru yn cael ei lansio heddiw sy’n cynnig benthyciadau di-log gwerth £5 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

Y prif fwriad yw annog mwy o bobol i wneud ymarfer corff ac mae gwahoddiad i awdurdodau lleol i wneud cais i foderneiddio eu cyfleusterau chwaraeon a hamdden.

Mae’r cynllun hefyd am geisio cynyddu faint o bobol mewn ardaloedd difreintiedig sy’n gwneud ymarfer corff a bydd cyfle i awdurdodau lleol wneud cais am fenthyciadau rhwng £500,000 a £1 miliwn, i’w dalu yn ôl mewn deng mlynedd.

Cyn lansio’r cynllun yng Nghanolfan Rhagoriaeth Chwaraeon Ystrad Mynach heddiw, dywedodd y Dirprwy Weinidog Chwaraeon Ken Skates: “Ein huchelgais yw gwneud Cymru’r genedl fwyaf creadigol ac egnïol yn y DU.

“I wneud hyn mae angen cyfleusterau chwaraeon sy’n diwallu anghenion y gymuned leol ac sy’n ysbrydoli pobol i ymhél â chwaraeon ac i fod yn egnïol.

“Mae’r cynllun yn golygu creu’r cyfleusterau cywir yn y llefydd cywir. Ni ddylai pobol gael eu rhwystro rhag cymryd rhan mewn chwaraeon ac elwa ar y manteision lu sy’n gysylltiedig â hynny, ac rydw i eisiau gweld pobol o bob gallu, oedran a chefndir yn cymryd rhan yn rheolaidd.”