Nicola Sturgeon
Gallai Aelodau Seneddol yr SNP yn San Steffan gefnogi llywodraeth Lafur ar rai materion, meddai Nicola Sturgeon heddiw.

Er bod Prif Weinidog yr Alban wedi ymosod ar y blaid Lafur am fod yn benderfynol o barhau gyda thoriadau gwariant, pwysleisiodd nad oedd “llawer” o faterion lle na allan nhw ddod o hyd i dir canol.

Ymysg y rhain mae gwrthwynebiad y ddwy blaid i gytundebau gwaith heb oriau penodol ac awydd ar y ddwy ochr i gynyddu’r isafswm cyflog cenedlaethol.

Gwnaeth Nicola Sturgeon ei sylwadau wrth annerch cyfarfod blynyddol Cyngres yr Undebau Llafur yn yr Alban.

Mae unrhyw gytundeb rhwng y Ceidwadwyr a chenedlaetholwyr yr Alban eisoes wedi cael ei ddiystyru gan y ddwy blaid.

Ac er bod Ed Miliband wedi dweud na fydd yn ffurfio clymblaid ffurfiol gyda’r SNP, nid yw wedi diystyru gweithio gyda phlaid Nicola Sturgeon ar sail pleidlais wrth bleidlais i ennill y gefnogaeth sydd ei angen arno i fod yn Brif Weinidog.

Dywedodd Nicola Sturgeon y byddai’n defnyddio pa bynnag ddylanwad sydd ganddi i wneud llywodraeth Lafur “yn well, yn fwy beiddgar ac yn fwy radical”.

Yn gynharach, dywedodd pe bai’r DU yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd mewn refferendwm, gallai hynny gyfiawnhau ail refferendwm annibyniaeth i’r Alban.

Mae Nicola Sturgeon wedi gwrthod diystyru cynnal ail bleidlais annibyniaeth ar ôl etholiadau Holyrood yn 2016, ond mae hi wedi dweud y byddai “newid mewn amgylchiadau” ledled y DU cyn y gallai hynny ddigwydd.