Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Pôl piniwn yn hwb i Cameron

Rhagfyr 4, 2011 10:21, Diweddarwyd am 10:21


David Cameron
Mae’r polau piniwn diweddaraf yn awgrymu fod pleidleiswyr yn cefnogi’r modd y mae Llywodraeth San Steffan wedi mynd i’r afael â’r argyfwng economaidd.

Mae pôl piniwn ICM yn y Sunday Telegraph yn dangos fod cefnogaeth y Ceidwadwyr bellach yn uwch na Llafur, er gwaethaf y newyddion drwg am yr economi.

Roedd plaid David Cameron ar 38%, cynnydd o ddau bwynt, a’r wrthblaid wedi syrthio dau bwynt i 36%. Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol yn sefydlog ar 14%.

Bydd yr arolwg yn ergyd i arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, wrth iddo fethu a chymryd mantais o broblemau economaidd y wlad.

Serch hynny roedd y pôl piniwn yn awgrymu nad oedd y cyhoedd yn cefnogi rhai o fesurau llym y Llywodraeth er mwyn lleihau’r diffyg ariannol.

Dim ond 37% oedd yn cefnogi cynllun y Canghellor, George Osborne, i godi’r oed ymddeol i 67 yn 2026, degawd ynghynt na’r disgwyl.

Roedd 50% yn gwrthwynebu gwneud hynny.

Holodd ICM 1,005 o oedolion dros y ffon ar 29-30 Tachwedd.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Mali , Rhagfyr 4, 2011 12:07 pm

Y problem ydi Ed Miliband. Mae’n anobeithiol fel arweinydd blaid.

Yn ffodus i Cameron mae Llafur wedi gwneud camgymeriad enfawr drwy pigo fe unlle ei frawd, David Miliband.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.