Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Llai o bobl ifanc yn cofrestru i bleidleisio

Rhagfyr 29, 2011 15:29


Llun o wefan y Comisiwn Etholiadol
Mae bron ddwywaith cymaint o bobl ifanc 18 oed yn defnyddio’r wefan gymdeithasol  Facebook ag sydd wedi cofrestru i bleidleisio, yn ôl ymchwil gan y Comisiwn Etholiadol.

Mae dadansoddiad o gofrestrau etholiadol cannoedd o ardaloedd ledled Prydain yn dangos gostyngiad yn y cyfanswm o bobl ifanc arnyn nhw.

Er bod cyfanswm nifer yr oedolion sydd wedi cofrestru i bleidleisio wedi codi 0.8% i  47.5 miliwn, dim ond 520,000 o’r rhain a ddaeth yn 18 oed yn 2011. Roedd hyn 3% yn llai na’r grŵp yma yn 2010.

Ar y llaw arall, amcangyfrifir bod 1.05 miliwn o bobl ifanc 18 oed wedi cofrestru ar Facebook.

‘Pryder mawr’

“Mae’r gyfradd isel o bobl ifanc sy’n cofrestru i bleidleisio’n destun pryder mawr,” meddai llefarydd ar ran y Comisiwn Etholiadol.

“Mae’n hymchwil ni’n dangos mai dim ond 56% o bobl ifanc 19-24 oed, a 55% o bobl ifanc 17 ac 18 oed sydd ar y gofrestr etholiadol.”

Fe wnaeth y Comisiwn Etholiadol ddefnyddio Facebook y llynedd er mwyn annog pobl ifanc yn eu harddegau i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd, gan lwyddo i ddenu 15,000 i gofrestru.

“Bob blwyddyn, mae’r Comisiwn Etholiadol yn cynnal ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd i annog pobl i gofrestru,” meddai’r llefarydd.

“Mae pobl ifanc yn grŵp pwysig i’w dargedu, a dyna pam fod cyfryngau cymdeithasol wedi dod yn llwyfan cynyddol bwysig ar gyfer yr ymgyrchoedd hyn.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Benjiman , Ionawr 1, 2012 2:31 am

Ateb syml… Allu ddim y genhedlaeth ganwyd ar ol tua 1982-85 cofio bywyd cyn yr we. Fi’n cynwysedig. Mae’r byd wedi newid. Facebook, twitter, iphones…. Does dim rheoliaeth gyda llwyodraethau bellach. Twnisia, Yr Aifft, Lybia… Nid etholiadau creu’r newid hwn. Dyrniad o bobl gyda iphones oedd hi. Os yw bawb â medru cyfiriadurol ar hyd a’r gwybodaeth ar gael trwyddi…. Pam fasa unrhyw un o dan 25 rhestr i bleidlais erioed eto? Dyn ni i gyd nabod bod politicians o bob plaid just eisiau paycheck beth bynnag.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.