Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Alex Salmond yn mynnu bod y refferendwm yn ‘gyfreithiol’

Ionawr 11, 2012 11:41


Alex Salmond
Mae Alex Salmond wedi mynnu bod ei gynlluniau ar gyfer pleidlais am annibyniaeth yn yr Hydref 2014 yn gyfreithiol – er gwaetha’r ffaith bod San Steffan yn dweud nad oes gan Lywodraeth yr Alban yr hawl i gynnal refferendwm o’r fath.

Neithiwr fe gyhoeddodd Prif Weinidog yr Alban y dyddiad mae nhw’n bwriadu cynnal y bleidlais i benderfynu a ddylai’r Alban aros yn rhan o’r DU.

Daeth y cyhoeddiad awr yn unig ar ôl i Ysgrifennydd yr Alban Michael Moore gynnig ymestyn pwerau cyfreithiol Holyrood er mwyn caniatáu refferendwm ar annibyniaeth – petai nhw’n cwrdd ag amodau arbennig.

Mae Alex Salmond wedi cyhuddo Llywodraeth San Steffan o geisio ymyrryd ac wedi dweud y dylai’r Prif Weinidog “gadw allan” o’r mater.

Dywedodd bod na feirniadaeth hallt wedi bod yn yr Alban ynglŷn â’r agwedd “Thatcheraidd” mai “Downing Street sy’n gwybod orau,” gan ychwanegu na fyddai’r Alban yn derbyn amodau “afresymol” San Steffan ynglŷn â sut y dylen nhw gynnal y refferendwm.

Fe wrthododd Michael Moore heddiw i ddweud a fyddai Llywodraeth San Steffan yn cyflwyno her gyfreithiol yn erbyn refferendwm yr Alban ond dywedodd bod cynlluniau’r SNP yn “peri’r risg o gael eu herio’n gyfreithiol rywbryd yn ystod y broses.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Jones , Ionawr 11, 2012 12:17 pm

Diom ots os ydion gyfreithiol neu beidio. Os bysa refferendwm yn cael ei gynnal gyda 55%+ yn dweud “ie”. Ydy chwi wirioneddol yn meddwl neud Comisiwn Ewrop, Cenhedloedd Unedig ayyb sefyll yn ol a peidio gadael ir Alban cael y seddi yn y sefyliadau uchod?!

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.