Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Yr Alban – rhaid paratoi, meddai Carwyn Jones

Ionawr 26, 2012 08:57


Carwyn Jones - angen paratoi
Mae Prif Weinidog Cymru’n dweud bod angen dechrau paratoi’n awr ar gyfer y posibilrwydd o Alban annibynnol.

Ond mae Carwyn Jones wedi gwrthod y syniad o ddatganoli rhai o’r prif drethi i Gymru – o leia’ nes y bydd y wlad yn cael “cyllid teg” o Lundain.

Fe ddylai’r ddadl am ddyfodol yr Alban fod yn fater i wledydd Prydain i gyd, meddai’r Prif Weinidog ar Radio Wales.

“All Cymru ddim eistedd yn ôl a gadael i bethau ddigwydd,” meddai. “Does gyda ni ddim ateb ar hyn o bryd ond mae’n rhaid i ni ddechrau gweithio arno fe’n awr.

“Y peth ola’ r’yn ni’n mo’yn yw fod y ddadl hon yn crisialu yn ddadl rhwng Lloegr a’r Alban. Rhaid i ni ddechrau meddwl am y peth nawr, nid ymhen dwy flynedd.”

‘Dim datganoli-macs i Gymru’

Fe wrthododd y syniad o ‘ddatganoli macs’ i Gymru, gan gynnwys rhoi grym i godi rhai o’r prif drethi, fel treth incwm a threth gorfforaethol.

Roedd Cymru’n cael cam o ran yr arian sy’n dod o Lundain, meddai, ac fe fyddai derbyn hynny a threthu pobl yr un pryd yn gamgymeriad.

Er bod Comisiwn Silk ar hyn o bryd yn ystyried materion o’r fath, fe ddywedodd Carwyn Jones y byddai’n ystyried datganoli rhai o’r trethi llai, ond dim arall – cael cyllid teg oedd bwysica’.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Iwan Rhys , Ionawr 26, 2012 9:18 am

Llafur Cymru – yn mwynhau cwyno, ond ni cymryd cyfrifoldeb.

§

Ifor Hughes , Ionawr 26, 2012 9:37 am

Vote Yes to Independence – or be considered as pathetic as the Welsh !

Slogan newydd !

§

Aneirin , Ionawr 26, 2012 10:24 am

“All Cymru ddim eistedd yn ôl a gadael i bethau ddigwydd,”

erm, sef yn union mae Llafur wedi bod yn gwneud. Doedd Llafur ddim eisiau Refferendwm ar bwerau deddfu – cael eu gorfodi gwnaethon nhw gan gytundeb Cymru’n Un gan Blaid Cymru.

Doedd Llafur ddim eisiau Comisiwn Silk. Fel esbonia’ Richard Wyn Jones yn Barn, y LibDems enillodd hynny i Gymru.

Dydy Llafur ddim eisiau pwer trethiannol … ond fe ddaw, er gwaetha Llafur.

Llafur yn chwarae catch-up eto.

§

Gareth Williams , Ionawr 26, 2012 11:20 am

Os y bydd yr Alban yn mynd yn annibynnol, ni fydd gan Llafur byth fwyafrif yn San Steffan.
Gwae Cymru wedyn.

§| Nodi camddefnydd

Iwan Rhys , Ionawr 26, 2012 11:25 am

Gareth,

Na, nid gwae Cymru – gallai hynny fod yn achubiaeth i Gymru. Efallai mai dyna pryd y bydd mwyafrif pobl Cymru yn sylweddoli y gallwn ni wneud gwell job o redeg ein gwlad ein hunain!

§

Gweriniaethwr , Ionawr 26, 2012 11:39 am

Mwy o gwrth-gweud, drwswch, a negeseuon cymysg o’r blaid Llafur “Cymreig”. Pam na all y boi ma jyst cymryd a cyfrifoldeb a gweud “Beth bynnag neiff ddigwydd yn yr Alban neu Lloegr, rydan ni yn mynd i warchod buddiannau Cymru” yn lle son am yr “cadw’r undeb” a bod yr undeb “dda i Gymru” a bod ishe ‘sicrhau cyllid teg i Gymru’. Oedd dros 10 mlynedd i gwneud hynny pan oedd Llafur mewn grym yn San Steffan, a beth digwyddoedd? Nonsens llwyr yr naratif sy’n dod o Llafur a’r pleidiau prydeinig ar hyn o bryd – ma’r llong yn suddo bois…

§| Nodi camddefnydd

Andrew , Ionawr 26, 2012 11:47 am

Sut mae rhywun yn paratoi i wneud dim byd?

§| Nodi camddefnydd

Rhygyfarch , Ionawr 26, 2012 12:11 pm

Chwerthinllyd. Rwy’n ofni mai strategaeth y blaid Lafur parthed Cymru yw gwneud pob dim a allant i chwarae ar deimladau o israddoldeb a dibyniaeth er mwyn diogelu eu buddiannau.

§

Gareth Williams , Ionawr 26, 2012 1:40 pm

Iwan – gobeithio’n wir.
Mae record y Toriaid yng Nghymru’n warth ond yn wir mae Llafur wedi colli cyfle ar ol cyfle ar ol cyfle.

§| Nodi camddefnydd

Gwyn, Cwm Taf , Ionawr 26, 2012 2:21 pm

Beiwch y Cymry am bleidleisio dros fwyafrif o’r diawled o drwch blewyn – diffyg datblygiad/cyffro/syniadau newydd o gymharu â Llywodraeth Glymblaid Cymru’n Un gynt. A Carwyn fel cadach llestri o gymharu â Rhodri.

§

Neilyn , Ionawr 26, 2012 4:10 pm

Da yw gweld fod Carwyn yn poeni am y swn enfawr o £190M y flwyddyn sydd yn haeddianol i Gymru, ac a fudd yn sicrhau bod safon byw yng Nhymru yn codi i’r un level a’r safon yn Lloegr heb yr angen i wneud dim byd arall. Disgwyliwch i’r pres ddod i mewn bois, ac mi fydd popeth yn iawn, siwr o fod!!!

§

John Griffith , Ionawr 26, 2012 5:30 pm

Mi fuasai datganoli ein dyfroedd ac ynni yn ddechrau go dda.

§| Nodi camddefnydd

Llywelyn , Ionawr 29, 2012 12:58 pm

llafur ddigon barod i neidio ar y bandwagon pan maen’t yn siwtio nhw e.e Refferendwm ’11, ond ddim yn ddigon parod i gynnig syniadau cyffrous a gwreiddiol eu hunain. O heblaw am y bagiau plastig 5c. Ble mae Llafur?

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.