Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Prif weithredwr RBS yn ildio ei fonws o £1m

Ionawr 30, 2012 08:15, Diweddarwyd am 08:20


Mae Prif Weithredwr banc RBS wedi ildio i bwysau cynyddol ac wedi penderfynu na fydd yn derbyn taliad bonws gwerth bron i £1 miliwn.

Fe gyhoeddodd RBS yn hwyr neithiwr na fyddai Stephen Hester yn derbyn 3.6 miliwn o gyfranddaliadsau gwerth £963,000.

Roedd y Blaid Lafur wedi galw am gynnal pleidlais ar y mater.

Mae’r bonws wedi bod yn embaras i’r Llywodraeth ar ôl i David Cameron addo y byddai’n mynd i’r afael â chyflogau uchel i benaethiaid banciau a chwmniau.

Dywedodd Maer Llundain Boris Johnson ei bod hi’n “syfrdanol” bod banc, sydd â chyfran helaeth wedi ei wladoli, yn talu bonws mor uchel.

‘Gwneud y peth iawn’

Dywedodd y Canghellor George Osborne bod y penderfyniad i’w groesawu “ac yn caniatau i Stephen  Hester ganolbwyntio ar y dasg o gael biliynau o bunnoedd o arian y trethdalwr, gafodd ei roi i RBS, yn ôl.”

Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband bod Stephen Hester “wedi gwneud y peth iawn.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


John Griffith , Ionawr 30, 2012 9:14 am

Os oedd y gwr bonheddig hwn yn deilwng o’i fonws yn unol a’i gytundeb, felly rhowch y cyfranddaliadau iddo fo. Cytundeb yw cytundeb – rhywbeth nad yw pob gwleidydd yn ei ddeall.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.