Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Ed Miliband i gyflwyno araith yn erbyn annibyniaeth i’r Alban

Ionawr 30, 2012 09:11


Ed Miliband
Bydd arweinydd Llafur Ed Miliband yn dadlau’r achos dros gadw’r Alban yn rhan o’r DU heddiw, wrth annerch torf yn Glasgow.

Mae disgwyl i arweinydd Llafur ganolbwyntio ar “degwch” a “datgblygiad” yn ystod ei araith yn erbyn annibyniaeth i’r Alban, gan bwysleisio ar fanteision aros o fewn yr undeb.

Mae disgwyl hefyd iddo gydnabod fod Llafur wedi colli tir i’r SNP yn etholiadau Senedd yr Alban fis Mai y llynedd.

Fe fydd Ed Miliband yn rhannu llwyfan gydag arweinydd Llafur yr Alban, Johann Lamont, a gafodd ei dewis yn arweinydd dros y blaid yn yr Alban ychydig cyn y Nadolig.

Mae disgwyl i Ed Miliband roi ei genfogaeth i “ymgyrch hir” Johann Lamont i gadw’r “Deyrnas Unedig.”

‘Tegwch’

Wrth drafod ei araith y bore ’ma dywedodd Ed Miliband ei fod eisiau “mynd i’r afael â’r rhwyg go iawn yn ein cymdeithas. Nid rhwng yr Alban a gweddill y DU, ond rhwng y rhai sydd â digon, a’r rhai sydd heb ddigon.

“Felly, dwi ddim yma i ddweud wrth yr Alban na fyddan nhw’n gallu ymdopi tu allan i’r DU.

“Ond dwi yma i ddweud wrthoch chi fod angen i’r Alban, Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon fod yn le tecach i fyw.

“Ac fe allwn ni wneud hyn gyda’n gilydd.”

Daw’r anerchiad gan arweinydd Llafur Prydain heddiw, lai nag wythnos wedi i Brif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, lansio’i bapur ymgynghoriad ar gynnal refferendwm annibyniaeth yr Alban. Mae’r Prif Weinidog a’i blaid, yr SNP, eisiau gweld refferendwm yn cael ei gynnal ar annibyniaeth i’r Alban yn yr hydref 2014.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


John Griffith , Ionawr 30, 2012 9:36 am

Paham yn union y mae’r Saeson gymaint yn erbyn hunanlywodraeth i’r Alban?

§| Nodi camddefnydd

Ann , Ionawr 30, 2012 1:32 pm

Os mai cyflwyno araith yn erbyn annibyniaeth y mae Ed Milliband yn bwriadu ei wneud, pam yn y byd y mae’n canolbwyntio ar degwch a datblygiad. A pha fath o ddatblygiad? Ni ellir osgoi datblygiad, mae amser yn treiglo yn ddatblygiad!! Gwell iddo ddysgu siarad mewn iaith symlach, mwy diriaethol

§

Mali , Ionawr 30, 2012 7:25 pm

Dyma’r dyn oedd yn weinidog mewn llywodraeth a welwyd y bwlch rhwng y cyfoethog a’r tlawd lledu mwy nag o dan Thatcher. Rhagrithwyr yw Llafur.

§| Nodi camddefnydd

irfon , Ionawr 31, 2012 12:46 pm

Yn syml? Mae gan Llafur llawer iawn o aelodau seneddol yn Yr Alban a tydi nhw ddim yn awyddus i’w colli neu fydd gan y Toriaid fwyafrif barhaol yn Llundain. Pragmatism sydd yma. Nid ideoleg. Ac os faswn i’n arwain y blaid Lafur mi faswn yn dadla’r union yr un peth.

§| Nodi camddefnydd

Hirben , Ionawr 31, 2012 9:04 pm

Bydd y Toriaid yn saff am byth yn Lloegr os caiff yr Alban annibyniaeth. O safbwynt y Toriaid mae’n sefyllfa o ennill/ennill beth bynnag ddigwyddith.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.