Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Dafydd Iwan – ‘Leanne amdani’

Ionawr 31, 2012 12:30, Diweddarwyd am 13:03


Dafydd Iwan
Mae Dafydd Iwan wedi datgelu heddiw mai Leanne Wood AC fydd yn cael ei gefnogaeth ef ar gyfer ras arweinyddiaeth Plaid Cymru.

Mae cyn-Lywydd Plaid Cymru yn dweud ei fod yn credu y gallai Leanne Wood “danio dychymyg cefnogwyr newydd” ac uno pobol o bob rhan o Cymru gyda’i gweledigaeth.

“Angen mawr Cymru a Phlaid Cymru heddiw yw diddordeb a chefnogaeth pobol o bob rhan o’n cenedl,” meddai Dafydd Iwan.

“Leanne yw’r ymgeisydd sy’n gallu tanio dychymyg cefnogwyr newydd, a hi hefyd sy’n ail-gydio yng ngwleidyddiaeth economaidd wreiddiol y Blaid, sy’n seiliedig ar y gymuned.”

‘Parch’

Dywedodd Leanne Wood heddiw bod Dafydd Iwan wedi gosod sawl esiampl da i’r Blaid dros y blynyddoedd, a’i bod hi’n gobeithio adeiladu ar hynny.

“Mae parch mawr iddo ym mhob rhan o’r wlad am ei gyfraniad efnawr i ddiwylliant, cymdeithas a gwleidyddiaeth Cymru,” meddai.

“Mae’n ffigwr sydd wedi uno’r Blaid dros y blynyddoedd, ac mae hynny’n rhinwedd y byddaf innau’n ceisio ei hefelychu os byddaf yn llwyddiannus yn ras yr arweinyddiaeth.”

Bydd Dafydd Iwan yn cadeirio cyfarfod fel rhan o ymgyrch arweinyddol Leanne Wood yn Neuadd Penygroes, ger Caernarfon, nos Wener.

Lan a lan: nifer cefnogwyr Leanne…

Dafydd Iwan yw’r diweddaraf o blith enwau amwlg Plaid Cymru i roi eu cefnogaeth i Leanne Wood.

Erbyn dyddiad cau cyflwyno enwebiadau ar gyfer y ras am arweinyddiaeth y blaid, roedd ei rhestr o gefnogwyr yn cynnwys y cyn-AS Adam Price, ynghyd â Jonathan Edwards AS, a Bethan Jenkins AC.

Roedd Leanne Wood hefyd wedi cael ei henwebu ar gyfer yr arweinyddiaeth gan 14 o etholaethau a changhennau erbyn y dyddiad cau ar 26 Ionawr, gan gynnwys Wrecsam, Dwyrain Abertawe, Maldwyn Gŵyr a De Caerdydd, a changhennau Porth Tywyn, Castell Nedd a Bro Ingli.

Y tri arall yn y ras ar gyfer arweinyddiaeth Plaid Cymru yw Dafydd Elis-Thomas, Simon Thomas, ac Elin Jones – ei chystadleuydd pennaf yn ôl y bwcis.

Mae Elin Jones hefyd wedi denu rhai o aelodau blaenllaw y blaid i’w rhengoedd, gan gynnwys Hywel Williams AS a Nerys Evans, y cyn-AC.

Yn ystod y mis nesaf, bydd Elin Jones, Leanne Wood, Dafydd Elis-Thomas a Simon Thomas yn mynd ben-ben ar draws Cymru mewn cyfres o hystings cyhoeddus, cyn i’r aelodau dderbyn eu pleidlais bost ddiwedd y mis.

Mae disgwyl i enw’r arweinydd newydd gael ei gyhoeddi ar 15 Mawrth.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Lewys Aron , Ionawr 31, 2012 12:54 pm

Well, oni ddim yn disgwyl hwna o bell fordd!. Mae hyn mynd i fod yn hwb enfawr i ymgyrch Leanne i arwain PlaidCymru.

§

Jason Morgan , Ionawr 31, 2012 1:17 pm

Ma hwnna’n hwb mawr i Leanne Wood – ma DI yn llais mawr yn y Blaid, ac yn llais ymhlith rhannau o’r Blaid nad ydynt, fe dybiech chi, yn gefnogwyr naturiol iddi hi. Diddorol!

§

Iwan Rhys , Ionawr 31, 2012 1:55 pm

Newyddion gwych iawn. Mae hyn yn dangos bod gan Leanne Wood y gallu i ddenu cefnogaeth o bob rhan o’r Blaid, yn ogystal â denu cefnogwyr newydd.

§

Jonathan Tomos , Ionawr 31, 2012 2:03 pm

Wow! Newyddion gwych

§

Gareth Williams , Ionawr 31, 2012 2:08 pm

Balch iawn o glywed y newyddion.Llais o bwys o’r gogledd.
Cytuno gyda ti Dafydd.

§

Emyr G , Ionawr 31, 2012 3:20 pm

Arbennig!

§

jones2 , Ionawr 31, 2012 3:47 pm

siomedig iawn ynot Dafydd.

§

jones2 , Ionawr 31, 2012 3:53 pm

ymhellach i’r uchod … ond wedi’r cyfan, ti ddywedodd nad gwleidydd mohonot!

§

Ifor Hughes , Ionawr 31, 2012 4:38 pm

Game set and match i Leanne Wood off i Paddy Power via auto bank !

§

CGT , Ionawr 31, 2012 5:21 pm

Peintio’r byd yn goch !

§

Siôn Eurfyl Jones , Ionawr 31, 2012 8:20 pm

Mae’r Blaid yn bardo i ddod o oed o’r diwedd, ac mae Dafyd yn ddigon craff i weld mae Leanne yw’r un i’n lliwio drwy’r blynyddoed cyffroes sydd o’n blaen.

§

Dafydd , Chwefror 3, 2012 10:35 am

Y Ddraig Goch ynte’r Faner Goch? Dyna yw’r cwestiwn…..

§| Nodi camddefnydd

Martin Wilias , Chwefror 7, 2012 1:33 pm

Carwyn Jones ydi’r person gorau i arwain Cymru am y deng mlynedd nesaf.
Ond efallai y byddem yn croesawu clymblaid unwaith yn rhagor rhwng Llafur a Phlaid Cymru.
Unai Adam Price, L Wood neu Dafydd El fel Dirprwy Brif Weinidog.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.