
Jonathan Edwards
Mae cais i roi grym dros bolisiau ynni Cymru yn nwylo’r Cynulliad Cenedlaethol wedi methu ar y cam cyntaf.
Cafodd cynnig AS Plaid Cymru, Jonathan Edwards, i roi grym dros ynni ac Ystadau’r Goron yng Nghymru yn nwylo’r Cynulliad Cenedlaethol, ei drechu o 195 o bleidleisiau yn Nhŷ’r Cyffredin neithiwr.
Wrth gyflwyno’r mesur o flaen ASau, rhybuddiodd Jonathan Edwards na fyddai Cymru yn gallu cyrraedd ei photensial onibai bod gwleidyddion yng Nghaerdydd yn gallu pennu lle byddai gorsafoedd pwer yn cael eu hadeiladu.
Ond gwrthod hynny wnaeth AS Ynys Môn, Albert Owen, gan alw am fwy o gydweithio rhwng bob haen o lywodraeth ar bob prosiect ynni.
Cafodd y cynnig ei drechu o 239 pleidlais i 44 yn Nhŷ’r Cyffredin neithiwr.
‘Potensial anferth’
Wrth ddadlau dros y mater, gofynnodd Jonathan Edwards sut allai ei “etholwyr gael ffydd mewn system lle nad oes ganddyn nhw unrhyw reol dros ddatblygiadau ar garreg eu drws? Sut gall system lle mae penderfyniadau cynllunio yn cael eu cymryd gan Lywodraeth ddieithr San Steffan, ac heb gysylltiad ag unrhyw gorff democrataidd yng Nghymru, fod yn gyfiawn?”
Dywedodd y byddai rhoi Ystadau’r Goron yng Nghymru yn nwylo’r Cynulliad yn agor “potensial anferth i arfordir Cymru o safbwynt ynni’r llanw a’r tonnau, a fyddai’n cael ei ddefnyddio’n rhan o’n strategaeth ynni.
“Mae rheolaeth dros adnoddau ynni yn bwysig oherwydd hebddyn nhw rydyn ni wedi’n cyfyngu yn yr hyn allwn ni ei wneud i gyrraedd ein potensial fel gwlad, i dyfu economi newydd i Gymru a helpu’r bregus.”
‘Datganoli ymarferol’
Ond dywedodd Albert Owen ei fod yn gwbwl yn erbyn y cynnig.
“Dwi’n credu mewn datganoli ymarferol,” meddai.
“Llai na 12 mis yn ôl, cafodd refferendwm ei gynnal ar bwerau ychwanegol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn ardaloedd oedd eisoes wedi eu datganoli. Roeddwn i a fy mhlaid yn cefnogi hynny.
“Rhoddodd hynny’r arfau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru weithredu, sef blaenoriaeth y llywodraeth. Ac maen nhw yn gweithredu ym meysydd iechyd, addysg, a datblygu economaidd,” meddai.
“Dwi eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda llywodraeth y DU a llywodraeth leol, mewn partneriaeth. Does dim maes sy’n gofyn am fwy o gydweithio nag ynni.
“Gyda chyfrifoldeb dros isadeiledd enfawr yn aros yma, ar lefel y DU, mae cyfrifoldeb dros reolau cynllunio ac amgylcheddol yn cael eu rhannu rhwng llywodraeth Cymru a lleol, dwi’n meddwl fod y balans ar hyn o bryd yn iawn.”
Andrew , Chwefror 1, 2012 9:48 am
§