
Dim ond y mewnfudwyr “mwya’ clyfar a’r gorau” fydd yn cael dod i mewn i wledydd Prydain yn y dyfodol, yn ôl y Llywodraeth.
Yn ddiweddarach heddiw, fe fydd y Gweinidog Mewnfudo, Damian Green, yn cyhoeddi rheolau newydd ar gyfer mewnfudwyr o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.
Fe fydd rhaid i bob un ddangos y bydd yn cyfrannu rhywbeth at wledydd Prydain, meddai, gyda chyfyngiadau ar fyfyrwyr a theuluoedd ac uchafswm cyffredinol.
Does dim angen rhagor o reolwyr canol na gweithwyr heb sgiliau, meddai’r Gweinidog mewn darnau o’r araith sydd wedi eu gollwng ymlaen llaw.
‘Y bobol iawn’
“Yn ogystal â gwybod bod y rhifau iawn o bobol yn dod yma, rhaid i ni wybod hefyd bod y math iawn o bobol yn dod yma,” meddai. “Pobol a fydd o fudd i Brydain, nid dim ond rhai sy’n elwa ar Brydain.”
Mae’r Llywodraeth yn Llundain wedi addo gostwng nifer net y mewnfudwyr o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd o 242,000 y flwyddyn i “ddegau o filoedd”.
Fe fydd Damian Green yn cyhoeddi y bydd hi’n anos i deuluoedd ddod yma ac y bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod myfyrwyr yn gadael pan ddaw eu fisas i ben.
Dafydd , Chwefror 3, 2012 10:19 am
§| Nodi camddefnydd