
Naz Malik, prif weithredwr AWEMA
Mae Prif Weinidog Cymru wedi cadarnhau fod yr heddlu yn cadw llygad ar yr ymchwiliad i weithgareddau sefydliad sy’n gyfrifol am brosiectau gwerth dros £8 miliwn yng Nghymru.
Dywedodd Carwyn Jones fod Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â Heddlu De Cymru ynglŷn â’r honiadau bod nepotistiaeth a llygredd yn rhemp yng Nghymdeithas Leiafrifoedd Ethnig Cymru – AWEMA.
Daeth yr honiadau i glawr yn dilyn adroddiad annibynnol ar waith y gymdeithas.
Yn yr adroddiad mae Prif Weithredwr AWEMA, Naz Malik, yn cael ei gyhuddo o ddefnyddio arian y gymdeithas yn amhriodol i roi codiad cyflog i’w hun a rhoi swydd i’w ferch heb y tryloywder priodol.
Mae eisoes wedi cyfaddef iddo ddefnyddio arian y Gymdeithas i dalu dyled ar ei gerdyn credyd gwerth £9,000, ond mae’n dweud ei fod yn ystyried yr arian yn daliad rhag blaen am gostau yn y dyfodol.
Atal grantiau
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi atal £3 miliwn o grantiau rhag mynd i goffrau AWEMA tra bod yr ymchwiliad yn parhau.
“Mae Llywodraeth Cymru a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, yn gyson ag arfer y Gronfa Loteri Fawr, wedi rhewi bob taliad i AWEMA hyd nes inni dderbyn canlyniad yr ymchwiliad,” meddai Carwyn Jones.
Dywedodd hefyd fod “swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn cadw mewn cysylltiad â Heddlu De Cymru ynghylch yr honiadau.”
Ond mynnodd na fyddai’n briodol iddyn nhw wneud sylw ar mater cyflogaeth Naz Malik, gan mai mater i’r cyflogwyr fyddai hynny.
Crosawu’r newyddion
Daeth y datganiad gan y Prif Weinidog yn sgil ymholiad gan Rhodri Glyn Thomas AC i sefyllfa’r ymchwiliad ddechrau mis Ionawr eleni.
Ers hynny, mae Darren Millar, AC Ceidwadwyr Cymru, hefyd wedi bod yn galw am gynnwys yr heddlu yn yr ymchwiliad.
Heddiw, fe groesawdd Rhodri Glyn Thomas y newyddion fod yr heddlu ynghlwm â’r ymchwiliad, gan ddweud ei bod hi’n “hollbwysig i’r mudiadau sy’n bartneriaid i AWEMA fod y mater hwn yn cael ei drin cyn gynted ag y bo modd er mwyn i’w gwaith hanfodol hwy barhau.
“Edrychwn ymlaen yn awr at ddatganiad llawn ar y pwnc gan y llywodraeth yn y sesiwn lawn yr wythnos nesaf.”