
Mae na bywsau ar brif weithredwr Network Rail i wrthod bonws o £340,000.
Roedd y cyn weinidog Rheilffyrdd Llafur Tom Harris wedi gwneud cynnig heddiw yn galw ar Syr David Higgins a chyfarwyddwyr y cwmni i wrthod unrhyw daliadau bonws. Roedd 27 AS wedi llofnodi’r cynnig.
Dywedodd llefarydd ar ran Network Rail y buasai aelodau’r cwmni yn cyfarfod yn hwyrach ym mis Chwefror i benderfynu strwythur bonws, ond fod penderfyniad heb ei wneud eto.
Network Rail sydd yn gofalu am rwydwaith rheilffyrdd y DU.
‘Anghredadwy’
Yn ei gynnig, honnodd Tom Harris fod aelodau Network Rail am “ofyn i gadarnhau bonws blynyddol i gyfarwyddwyr yn cyfateb i 60% o’u cyflog blynyddol, sy’n golygu £340,000 o fonws i’r Prif Weithredwr.”
Yn gynharach yr wythnos hon bu’n rhaid i Network Rail dderbyn y bai am ffaeleddau iechyd a diogelwch, yn dilyn marwolaeth dwy ferch tra’n croesi’r rheilffordd yn Essex.
Cafodd Olivia Bazlinton, 14, a Charlotte Thompson, 13, eu taro gan drên yn 2005, wrth groesi’r rheilffordd yng ngorsaf Elsenham.
Dywedodd Manuel Cortes, arweinydd undeb rheilffyrdd y TSSA: “Mae’n anghredadwy fod rheolwyr Network Rail yn trafod bonws chwe ffigwr yn yr un wythnos maen nhw wedi pledio’n euog i ymddygiad troseddol dros farwolaeth dwy ferch yn Essex chwe mlynedd yn ôl.”