Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Anfon llong danfor niwclear i’r Falklands

Chwefror 4, 2012 14:48


Mae’r Llynges Frenhinol wedi anfon llong danfor niwclear i Ynysoedd y Falklands yn dilyn tensiynau rhwng Prydain a’r Ariannin.

Y gred yw bod naill ai HMS Tireless neu HMS Turbulent wedi ei anfon i’r ynys er mwyn ei amddiffyn rhag byddin yr Archentwyr.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn nad oedden nhw’n fodlon cynnig sylw ar y mater.

Yn ôl papur newydd y Daly Mail roedd y Prif Weinidog wedi cymeradwyo cynllun i un o’r llongau tanfor deithio i’r Falklands.

Fe fydd y llong danfor yn cyrraedd yr ynys erbyn 30ain pen-blwydd y rhyfel ym mis Ebrill, meddai ffynonellau’r papur.

Daw’r newyddion wrth i Ddug Caergrawnt deithio i’r Falklands er mwyn gwasanaethu yno am chwe wythnos.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Andrew , Chwefror 4, 2012 4:52 pm

Mae’n hen dric fod cyfundrefnau sydd yn amhoblogaidd yng ngwledydd eu hun yn ceisio corddi ryw ddadleuon dros darnau o dir er mwyn gwneud eu hunain yn boblogaidd unwaith eto gyda’u pobl. Parch mawr i’r Archentwyr am beidio ag ymateb i Cameron yn ratlo’i saber.

§| Nodi camddefnydd

Mali , Chwefror 4, 2012 6:04 pm

Ydy Cameron mynd i geisio hen dric Maggie Thatcher, sef creu rhyfel wedyn fod ennill etholiad ar cefn buddigoliaeth rhyfel. A wrth gwrs fuasa balchder Prydeinig fuasa dod o ennill y rhyfel yn danseilio y refferendwm annibyniaeth Alban hefyd. Beth yw’r ods am rhyfel dros y Falklands erbyn haf 2014?

§| Nodi camddefnydd

CGT , Chwefror 5, 2012 8:40 am

Mali – yr ydych ychydig yn anheg ar yr hen Fagi. Yr Ariannin a wnaeth feddianu’r Malvinas , ac am rhyw pythefnos, edrychai fel petai’r llywodraeth am ddisgyn oherwydd eu bod wedi gwneud gymaint o lanast o’u polisiau amddiffyn yn yr ardal – gwnaethpwyd adroddiad ar yr amgylchiadau wedyn. ( A wnaeth John Nott ymddiswyddo o’r herwydd ?) . Yr wyf yn cofio gwrando ar y dadl yn nhy’r cyffredin ar y diwrnod oedd yn dilyn y goresgyniad , a pitw iawn oedd ymateb y Toriaid , a’r prif wenidog ei hun yn llipa a gwan. Yn anffodus, gwnaeth y diweddar Michael Foot araith gwych , gofiadwy – ond tra rhyfelgar ac ymosodol, wrth geisio tynnu sylw at wendid y llywodraeth. (Credaf iddo ddweud yn ddiweddarach iddo ddyfaru ei bwyslais rhyw gymaint). Fe osododd hynny’r naws i Mrs Thatcher fod yn ddi-gyfaddawd yn y mater .
Ansicr, a gwan tu hwnt , oedd y llywodraeth yn ystod y diwrnod cyntaf , ac ni chredaf eu bod wedi ‘pryfocio’r rhyfel. Yn anffodus i ni yng Nghymru , daeth y milwyr yn ol gyda baneri fel ‘ Call off the strike, and we’ll call an air strike’ . Gwyddai Magi o hynny ymlaen fod ganddi’r momentwm i orchfygu’r glowyr yn y streic a ddechreuodd bron union dwy flynedd yn ddiweddarach.
Yr eironi bellach yw nad oes gan yr Ariannin yr awyrennau fuasai ei hangen i oresgyn yr ynysoedd (yr union rhai sydd ganddynt ac yr oedd ganddynt ar ddiwedd rhyfel y Malvinas ), ac nid oes gan Prydain y llongau a fuasai eu hangen i’w hail-gipio !

§| Nodi camddefnydd

John Griffith , Chwefror 5, 2012 10:51 am

Ynysoedd Falkland neu Malvinas, ond nid Falklands tybiwn i.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.