Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Salmond yn beirniadu’r Bîb

Chwefror 5, 2012 19:24, Diweddarwyd am 19:24


Alex Salmond
Mae arweinwyr y gwrthbleidiau yn yr Alban wedi beirniadu Alex Salmond ar ôl iddo alw un o swyddogion y BBC yn “Gauleiter”.

Roedd Prif Weinidog yr Alban wedi beirniadu’r gorfforaeth ar ôl iddyn nhw ganslo ei ymddangosiad ar raglen i drafod dechrau pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Dywedodd Alex Salmond fod newyddiadurwyr y BBC “yn gaeth i Stryd Downing” a bod y gorfforaeth yn “unbennaeth fechan”.

Galwodd un o swyddogion y BBC yn “Gauleiter”, enw’r llywodraethwyr rhanbarthol yn yr Almaen yng nghyfnod Hitler wrth y llyw.

Cwynodd Llafur yr Alban ei fod yn “sarhad hyll”, ac mae’r Ceidwadwyr wedi ei alw yn “fwli”.

“Mae pobol eisiau i’r Prif Weinidog gefnogi’r tîm, nid dangos ei hun ar y teledu,” meddai llefarydd materion allanol yr wrthblaid, Patricia Ferguson.

“Mae’n hollol annerbyniol fod y Prif Weinidog wedi cymharu newyddiadurwyr ag arweinwyr rhanbarthol y Natsïaid. Mae’n sarhad hyll.

“Efallai nad oedd yn gwybod pa mor sarhaus yw’r term, ac os felly fe ddylai dynnu ei sylwadau yn ôl.”

Dywedodd y BBC eu bod nhw wedi penderfynu na ddylai Alex Salmond ymddangos ar y rhaglen er mwyn sicrhau bod eu “holl allbwn yn amhleidiol”.

“Penderfynwyd nad oedd yn weddus rhoi gormod o sylw i un arweinydd gwleidyddol yng nghyd-destun gêm yr Alban yn erbyn Lloegr.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


DC , Chwefror 6, 2012 6:52 am

Felly, oherwydd na fedrai Cameron drafferthu troi i fyny i gefnogi ei wlad roedd yn rhaid dweud wrth Salmond – a oedd yn amlwg wedi mynd i drafferth i dderbyn gwahoddiad oddi wrth y Bib – nad oedden nhw ddim o’i isio fo bellach ar eu rhaglen.

Ac onid ydi’r defnydd o’r gair ‘Gauleiter’ yn briodol mewn sefyllfa lle mae grym canolog yn ymddwyn yn unbeniaethol tuag at bobl ranbarthol?

Mae rhywun yn amau a oedd yr holl beth yn fwriadol er mwyn taro dyn da mewn man gwan.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.