
Mae disgwyl i gasgliadau’r adroddiad diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar weithgareddau mewnol yr elusen Lleiafrifoedd Ethnig Cymru, AWEMA. gael ei gyhoeddi heddiw.
Mae’r ymchwiliad gan Lywodraeth Cymru yn dilyn honiadau o anghysodebau ariannol yn AWEMA.
Mae AWEMA yn derbyn £8.5 miliwn o arian cyhoeddus ar gyfer prosiectau grwpiau lleiafrifol ethnig ledled Cymru.
Ddoe, daeth Llywodraeth Cymru o dan y lach unwaith eto wrth i fwy o fanylion ddod i’r amlwg ynglŷn ag ymateb y Llywodraeth i rybudd cynnar na ddylid buddsoddi rhagor o arian yn yr elusen.
Roedd y dystiolaeth ddiweddaraf yn dangos nad oedd y Gweinidog Cydraddoldeb ar y pryd, Jane Hutt, wedi cwrdd â swyddogion AWEMA o gwbl rhwng Ebrill 2005 ac Ebrill 2006 – er gwaetha’ argymhelliad adroddiad i’r elusen yn 2004/05 bod angen gwelliannau mawr mewn meysydd allweddol fel rheoli cyllid.
‘Cysgod tywyll’
Wrth ymateb i’r datgeliad ddoe, dywedodd Peter Black, AC y Dems Rhydd, fod y dystiolaeth newydd yn “taflu cysgod tywyll iawn dros amharodrwydd Llywodraeth Lafur Cymru i weithredu yn achos elusen sydd wedi derbyn miliynau o bunnoedd o arian y trethdalwr.
“Cafodd Llywodraeth Cymru eu rhybuddio i beidio â pharhau i gyllido’r elusen – oherwydd pryderon ynglŷn â rheoli prosiectau, monitro perfformiad, a rheolaeth ariannol,” meddai.
“Nid yn unig wnaeth Llywodraeth Cymru barhau i ariannu’r elusen er gwaetha’r rhybudd hwn, ond mae’n ymddangos na aeth y Gweinidog Cydraddoldeb i gwrdd â swyddogion i fonitro eu gwariant ar filiynau o bunnoedd y trethdalwr.
“Wrth i fwy o ymchwil gael ei wneud ynglŷn â beth sydd wedi bod yn digwydd yn Awema a choridorau cyfrinachol, mae’r holl achos yn mynd yn fwy tywyll ac yn fwy difrifol.”
AWEMA’n taro’n ôl
Ond mae AWEMA wedi taro’n ôl, gan feirniadu “sefydliadau pwerus” Cymru unwaith eto o’u defnyddio fel cocyn hitio er mwyn niweidio’r Llywodraeth.
“Dylid cofio NAD yw AWEMA yn adain o’r llywodraeth NAC yn gorff sy’n cael ei noddi gan y Cynulliad,” meddai Cadeirydd AWEMA, Rita Austin.
Er ei bod yn derbyn fod yr elusen yn derbyn arian y Llywodraeth, a’u bod yn atebol iddyn nhw am ddefnyddio’r arian yn synhwyrol, dywed fod AWEMA “mor ar wahân wrth Lywodraeth Cymru ag sy’n bosib bod heb fod yn ddinesydd preifat.”
Ychwanegodd ei bod hi, “fel Cadeirydd yr elusen, yn atebol i’r ymddiriedolwyr, a thrwyddyn nhw i’r bobol rydyn ni’n eu gwasanaethu. Nid i wleidyddion yr wrthblaid sy’n ceisio, am eu rhesymau pleidiol eu hunain, i roi cic i ni fel modd o gywilyddio’r Llywodraeth.”
‘Bygwth’
Daw’r sylwadau ddyddiau’n unig wedi i arweinydd y Dems Rhydd, Kirsty Williams, drafod y cyhuddiadau bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi ceisio “gwarchod un o griw eu hunain” wrth anwybyddu’r pryderon am AWEMA.
Ond ddoe, mynnodd Cadeirydd yr elusen, Rita Austin, fod y “sefydliadau pwerus” yn “ymosod mwy a mwy ar AWEMA oherwydd fod gynnon ni’r hyfdra i ddatgan barn.”
Rhybuddiodd hefyd fod AWEMA yn “gwybod beth sydd angen ei gywiro” ac na fydden nhw’n cael eu “bygwth” wrth iddyn nhw fynd o gwmpas eu gwaith.